
Mewn partneriaeth rhwng PYST, Mentrau Iaith Cymru a Noson Allan, dyma gyhoeddi’r drydedd gylchdaith o amgylch ardaloedd gwledig Cymru. Mae’r gylchdaith, sydd wedi’i gefnogi gan gynllun Noson Allan, yn lansio ar yr 23ain o Ionawr yn Neuadd Llannefydd. Bwriad y bartneriaeth yw ail-gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg fyw i ardaloedd gwledig Cymru ac i gynulleidfaoedd na fyddai fel arfer yn cael mynediad at gerddoriaeth fyw yn lleol.Bydd y gylchdaith yn gweld Gwilym Bowen Rhys yn perfformio ar draws un a’r ddeg o leoliadau gwahanol – gan lansio ei albwm newydd sbon, ‘Aden’, fydd yn glanio ddydd Llun 20fed o Ionawr drwy Recordiau Erwydd. Bydd Elin a Carys yn cefnogi Gwilym Bowen Rhys ar y noson arbennig yma.
Tocynnau i’r gig yn Neuadd Llannefydd ar gael ar wefan digwyddiadau.com.