Amdanom ni

Mae Menter Iaith Conwy yn un o’r 22 Menter Iaith sy’n gweithio ar hyd a lled Cymru i hyrwyddo a datblygu’r Gymraeg ar lawr gwlad. Mae gwaith y Mentrau yn amrywio o sir i sir gan ein bod yn canolbwyntio ar wahanol ffyrdd o ddarparu cyfleoedd i’r cyhoedd i ddefnyddio eu Cymraeg, neu i hyrwyddo’r iaith yn lleol. Rydym yn Menter Iaith Conwy hefyd yn lwcus o gael rhannu swyddfa gyda sawl aelod o dim Menter Iaith Cymru, sy’n gyrru rhwydwaith y Mentrau Iaith ac yn arwain ar brosiectau cenedlaethol.

Sefydlwyd Menter Iaith Dinbych-Conwy fel corff gwirfoddol ym 1998 ar sail partneriaeth rhwng Canolfan Iaith Clwyd, Menter Dyffryn Clwyd a Menter Colwyn. Penderfynwyd diddymu Menter Iaith Dinbych-Conwy ym mis Medi 2003 er mwyn ffurfio dwy fenter sirol, sef Menter Iaith Conwy a Menter Iaith Sir Ddinbych. Y prif reswm dros wahanu oedd twf y Fenter o ran gweithgarwch, cynlluniau a staff. Mae’r drefn newydd wedi galluogi trefn weinyddol well, yn enwedig yn ariannol, oherwydd bod gan y ddwy sir nifer o gynlluniau sirol. Ers sefydlu Menter Iaith Conwy mae nifer y staff wedi cynyddu a’r cyfleusterau wedi gwella.

Rydym ni ym Menter Iaith Conwy yn gweithio o’n swyddfa yng nghanol y dref farchnad Llanrwst. Yn ddiweddar iawn, rydym wedi llwyddo i brynu hen adeilad HSBC’r dref – a dyma ein swyddfa newydd. Ein gobaith yw parhau i adnewyddu’r adeilad fesul llawr, er mwyn gallu darparu mwy o gyfleoedd Cymraeg yn y dref. Mae’r neuadd sydd ar lawr uchaf yr adeilad yn bendant yn brosiect cyffroes, ac rydym yn edrych ymlaen i gael cychwyn ar y datblygiadau.

Mae ein gwaith yn amrywio o ddydd i ddydd gan ein bod yn gweithio gyda gwahanol grwpiau oedran a gallu ieithyddol, ond mae bob diwrnod yn ddiddorol iawn. I gael gwell syniad o’r hyn rydym yn ei ddarparu’n rheolaidd, ewch draw i’r dudalen Newyddion a Digwyddiadau ac i ddod o hyd i’n prif brosiectau dros y misoedd a’r blynyddoedd diwethaf – ewch draw i dudalen Prosiectau.

Cofiwch ein bod yn cael ein gyrru gan syniadau ac anghenion y cyhoedd – felly rydym bob amser yn croesawu syniadau newydd gennych chi – cysylltwch â ni gyda’ch syniadau a’ch sylwadau – neu cofiwch alw heibio’r swyddfa – mae’r tegell bob amser wedi ei ferwi!

Aelodau Bwrdd Rheoli Menter Iaith Conwy

Mae’r Fenter yn cael ei rheoli gan wirfoddolwyr o’r gymuned yn Sir Conwy, ac rydym yn ddiolchgar iawn am eu hamser a’r gwaith gwych y maent yn ei wneud i gadw trefn ar drefniadau’r Fenter.

Cadeirydd – Huw Prys Jones

YsgrifennyddAnna Prysor Jones

Trysorydd – Nia Owen

Eirian Jones

Wyn Jones

Eryl P Roberts

Ffion Meleri Howarth 

Ian Jenkins 

Annette Evans 

Rhys Dafis 

Meirion Davies – Staff

Cwrdd â'r Tîm

Meirion Ll Davies
Glesni Lloyd
Bedwyr ap Gwyn