Amdanom ni

Beth yw Menter Iaith?

Mae Menter Iaith Conwy yn un o’r 22 Menter Iaith sy’n gweithio ar hyd a lled Cymru i hyrwyddo a datblygu’r Gymraeg ar lawr gwlad.

Mae gwaith y Mentrau yn amrywio o sir i sir gan ein bod yn canolbwyntio ar wahanol ffyrdd o ddarparu cyfleoedd i’r cyhoedd i ddefnyddio eu Cymraeg, neu i hyrwyddo’r iaith yn lleol.

Rydym ym Menter Iaith Conwy hefyd yn lwcus o gael rhannu swyddfa gyda sawl aelod o dîm Menter Iaith Cymru, sy’n gyrru rhwydwaith y Mentrau Iaith ac yn arwain ar brosiectau cenedlaethol.

Eich Menter Iaith Leol Chi

Ein Swyddfa

Lleolir swyddfa Menter Iaith Conwy yng nghanol dref farchnad Llanrwst.

Llwyddom i brynu hen adeilad HSBC’r dref – a dyma bellach yw ein swyddfa.

Ein gobaith yw parhau i adnewyddu’r adeilad fesul llawr, er mwyn gallu darparu mwy o gyfleoedd Cymraeg yn y dref. Mae’r neuadd sydd ar lawr uchaf yr adeilad yn brosiect cyffrous, ac rydym yn edrych ymlaen i gael cychwyn ar y datblygiadau.





Ein Gwaith

Gan ein bod yn gweithio gyda gwahanol grwpiau oedran a gallu ieithyddol, mae ein gwaith yn amrywio o ddydd i ddydd.

I gael gwell syniad o’r hyn rydym yn ei ddarparu, ewch draw i’r dudalen Newyddion a Digwyddiadau.

Rydym bob amser yn croesawu syniadau newydd felly cofiwch gysylltwch â ni gyda’ch syniadau a’ch sylwadau neu mae croeso i chi alw heibio’r swyddfa!

Oriau Agor

Oherwydd natur ein gwaith cymunedol ar draws y Sir mae oriau swyddfa yn amrywio.

Ein horiau craidd yw 9 tan 5, Dydd Llun i Ddydd Gwener.

Fel arfer bydd aelod o staff i mewn yn y swyddfa ar Ddydd Mawrth, Mercher a Iau ond yn amrywio fel arall.

Aelodau Bwrdd Rheoli Menter Iaith Conwy

Mae’r Fenter yn cael ei rheoli gan wirfoddolwyr o’r gymuned yn Sir Conwy, ac rydym yn ddiolchgar iawn am eu hamser a’r gwaith gwych maent yn ei wneud i gadw trefn ar drefniadau’r Fenter.

Huw Prys Jones – Cadeirydd
Anna Prysor Jones – Ysgrifennydd
Nia Owen – Trysorydd
Gwennol Ellis – Cynrychiolydd Cyngor Sir
Eirian Jones
Wyn Jones 
Eryl P Roberts
Nia Clwyd Owen
Ian Jenkins 
Annette Evans 
Rhys Dafis 
Meirion Davies – Staff