Hoffech chi gyfle i weithio gyda sefydliad sy’n hyrwyddo a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg yn Sir Conwy?
Swyddog Datblygu Asedau (cyllidwyd gan Gronfa Gwydnwch Trydydd Sector Cymru Cam 3, a weinyddwyd gan CGGC)
Dyma gyfle i weithio ar gynlluniau cyffroes ac arloesol sydd wedi cael eu datblygu gan
Menter Iaith Conwy. Mae Menter Iaith Conwy yn rhan o 2 gynllun cyfalaf sydd angen eu
datblygu.
Bydd gofyn i’r swyddog;
• Parhau efo gwaith ceisiadau ariannol
• Cydlynu’r gwaith datblygu efo adran Gynllunio Cyngor Conwy
• Mynd a’r gwaith i dendr a goruchwylio y cyfnod adeiladu.
• Gweinyddu y cyllid grant ac adrodd yn ôl i’r cyllidwyr.
• Penodi arbenigwyr megis Maint Mesurydd(Quantity Surveyor), Penseiri lle mae
angen.
• Adrodd yn ôl i Fyrddau Menter Iaith Conwy a Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg
Mae dwy wedd i’r cynllun ar hyn o bryd;
1) Adeilad Menter Iaith Conwy. Er fod y ddau lawr cyntaf o’r Hen adeilad y Banc wedi eu
hatgyweirio mae dal angen datblygu’r Hen Neuadd drawiadol sydd yn y to fel y bod modd dod
a’r gofod yn ôl i ddefnydd cyhoeddus, gweler y fideo hwn.
2) Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg. Oherwydd poblogrwydd y Feithrinfa, mae angen mwy o
ofod i ofalu am blant. I fynd i’r afael a’r broblem yma, mae angen adeiladu estyniad.
Oriau: 37 awr yr wythnos
Cyflog: NJC 31 (2020) £28,785 Pensiwn ac IG (Bydd hyn i’w
drafod gyda’r ymgeisydd llwyddiannus. Rydym yn agored i geisiadau i weithio yn hyblyg neu
hefyd i ystyried ceisiadau gan weithwyr llawrydd.)
Lleoliad: Swyddfa Menter Iaith Conwy, Llanrwst
Am y Disgrifiad Swydd dilynwch y ddolen yma.
Am fwy o fanylion neu sgwrs anffurfiol cysylltwch efo: meirion@miconwy.cymru
Dyddiad Cau 20 Mai. Cais drwy lythyr a CV.