Cyfle i weithio gyda Menter Iaith Conwy

Awst 8, 2022 | Uncategorized @cy | 0 comments

Hoffech chi gyfle i weithio gyda sefydliad sy’n hyrwyddo a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg yn Sir Conwy?

Swyddog Maes Ardal Arfordirol a Chymorth Gweinyddol (Cyfnod Mamolaeth)

Yn gyfrifol am arwain gwaith maes Menter Iaith Conwy yn ardal arfordirol y Sir.
Amcan y gwaith yw creu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio hefo plant a phobl ifanc a phwyllgorau ardal o fewn y diriogaeth.

Mae hefyd rhywfaint o ddyletswyddau gweinyddol megis cadw cofnodion, materion diogelu data, cofnodi oriau staff ayyb.

Cyflog: £19,000 i £22,000 yn ddibynnol ar brofiad.

Oriau: Hyd at 37 awr yr wythnos (i’w drafod efo’r ymgeisydd llwyddiannus)

Lleoliad: Swyddfa Menter Iaith Conwy, Llanrwst

Am y disgrifiad swydd dilynwch y ddolen hon ac am fanylion pellach, cysylltwch â meirion@miconwy.cymru.

Dyddiad Cau: Medi 16eg, 2022 .

Cais drwy lythyr a CV.

*This is a job advert where the ability to speak Welsh is essential*