Cyflwyno Prosiect Gwreiddiau Gwyllt

Hyd 5, 2023 | Uncategorized @cy | 0 comments

Cyflwyno Prosiect Gwreiddiau Gwyllt

Mae’n ymdrech barhaol i warchod a hyrwyddo defnydd o dermau cynhenid Cymraeg, ac mae hyn mor wir am y maes amgylcheddol. Dyma pam bod prosiect newydd gan y Mentrau Iaith, Prosiect Gwreiddiau Gwyllt a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol mor bwysig.

Gan weithio yma yn sir Conwy a Chastell-nedd Port Talbot yn y lle cyntaf, bydd y prosiect blwyddyn a hanner yn galluogi pobl i ymgysylltu â’r byd natur yn y Gymraeg drwy weithgareddau amrywiol llawn antur a hwyl. Bydd pobl yn cael eu hannog i warchod treftadaeth naturiol eu bröydd ac fe fydd y prosiect yn gwarchod ein treftadaeth ieithyddol yr un pryd drwy gyflwyno enwau Cymraeg creaduriaid, coed a phlanhigion iddyn nhw.

Myfanwy Jones, Prif Weithredwr Mentrau Iaith Cymru:

“‘Rydyn ni ar drothwy prosiect cyffrous a fydd yn galluogi i ystod o ddigwyddiadau awyr agored gael eu trefnu. Bydd rhain yn cynnwys tasgau ymarferol i warchod amgylchedd lleol mynychwyr yn ogystal â theithiau a gweithgareddau sy’n amlygu hanesion, chwedlau ac enwau lleoedd all godi ymwybyddiaeth a thanio diddordeb bobl mewn byd natur.”

Iolo Williams, naturiaethwr:

“Dyma brosiect a fydd yn pontio rhwng y sector iaith a diwylliant a’r sector amgylcheddol er mwyn cynyddu gwerthfawrogiad pobl o dreftadaeth naturiol eu bröydd. Mawr obeithiaf y bydd y gweithgareddau’n tanio diddordeb mynychwyr ac yn meithrin ymdeimlad o ofal a allai eu harwain i gymryd camau i warchod byd natur eu hardaloedd. Nid poen meddwl pobl di-Gymraeg yn unig yw’r amgylchedd a ‘dwi’n gobeithio y bydd y prosiect yma’n deffro diddordeb Cymry Cymraeg a dysgwyr ynddo”.

Mae Nia Jones o Ymddiriedolaeth Byd Natur Gogledd Cymru yn croesawu prosiect Gwreiddiau Gwyllt:

“Dyma jest y peth ‘dan ni ei angen er mwyn annog pobl i ddefnyddio’r deunyddiau lliwgar Cymraeg ‘dan ni’n eu cynhyrchu ac i helpu meithrin gwarchodwyr amgylchedd y dyfodol.” Mae Mentrau Iaith Cymru yn ddiolchgar i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am ariannu’r prosiect. O ganlyniad i brosiect Gwreiddiau Gwyllt, maent yn gobeithio y bydd yn haws i sefydliadau, grwpiau ac unigolion gael gafael ar adnoddau ynglŷn ậ byd natur yn y Gymraeg ac y bydd mwy o adnoddau hawdd i’w defnyddio hefyd ar gael yn y dyfodol.

Rydym fel Menter yn falch o gael cymryd rhan yn y prosiect cyffrous hwn ac i ddechrau ar y gwaith yn y Sir. Mae ein Swyddog Maes yma yng Nghonwy, Judith Kaufmann yn edrych ymlaen at drefnu rhaglen o weithgareddau hwyliog ym mhob cwr o’r Sir – a hynny’n bennaf i bobl ifanc a siaradwyr newydd.

Am fwy o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â Rheolwr Prosiect Gwreiddiau Gwyllt, Siận Shakespear:
neu drwy ffonio 07890 613933.

 Cyfle gwych i gwpwl neu deulu rentu tŷ ym Mhenmachno am bris rhesymol. Manylion cyswllt ar yr hysbyseb.