Rydym yn chwilio am syniadau ar sut i ddefnyddio hen neuadd yn nho ein pencadlys ar sgwâr Llanrwst.
Eisoes rydym wedi addasu dau lawr cyntaf adeilad hen fanc HSBC yn y dref yn swyddfeydd i Menter Iaith Conwy, Cyfieithu Cymunedol a Mentrau Iaith Cymru yn ogystal â chwmni Pensaer Codi.cyf.
Ond mae yna hen neuadd arbennig sydd wedi bod ynghudd am o leiaf 60-70 mlynedd pan oedd y lloriau oddi tano’n cael eu defnyddio fel banc.
Bellach, gan fod Menter Iaith Conwy yn berchen yr adeilad, hoffem ei ail-agor yn ôl i’r cyhoedd. Rydym yn gweithio efo tîm o benseiri a peirianwyr i weld be sydd yn ymarferol bosib i’w ddatblygu.
Roeddem wedi bwriadu cynnal nifer o ddiwrnodau cyhoeddus i’r cyhoedd gael ei gweld, ond oherwydd argyfwng COVID-19 roedd rhaid ei ohirio. Felly erbyn hyn rydym wedi creu fideo, fydd yn rhoi syniad da i bobl o natur a golwg y gofod. Gobeithio y bydd o gymorth i bobl wrth adael eu sylwadau a llenwi’r holiadur. Bydd hefyd modd i bobl wneud trefniadau i alw mewn fel unigolion neu grwpiau bychan i cael gweld y gofod a datgan eu syniadau. Byddai’n wych clywed gan unrhyw un sydd hefyd yn cofio mynd i’r neuadd cyn iddi gael ei chau i’r cyhoedd.
“Ein gobaith yw y gallwn drawsnewid y Neuadd i fod yn ofod llawn bwrlwm lle fydd y Gymraeg yn rhan annatod ohoni a fydd yn cynorthwyo i adfywio canol tref Llanrwst,” meddai prif weithredwr Menter Iaith Conwy, Meirion Davies.
“Unwaith y byddwn wedi cael syniadau y cyhoedd ac wedyn addasu a datblygu cynlluniau i weld beth fydd cost y datblygiad byddwn yn dechrau gweithio ar geisiadau ariannol i gwblhau’r gwaith atgyweirio.”
Cymerwch olwg ar y fidio a chysylltwch:
post@miconwy.cymru
01492 642 357