Dydd Sadwrn, Mai 18fed cafwyd diwrnod arbennig iawn ar gaeau Ysgol Bro Gwydir a’r Ganolfan Gymunedol, gyda diolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol am ariannu.
Daeth dros 300 o drigolion Llanrwst a’r cyffuniau i ddathlu treftadaeth y dref, a chael mwynhau eu hunain wrth gymryd rhan a gweld gweithgareddau amrywiol.
Roedd Bwyellwyr Clwyd yn gwneud arddangosfa hollti coed, oedd yn hynod gyffrous gyda amrywiaeth o ddefnyddio bwyell a llif.
Daeth Gwynros Jones draw i ddangos sut oedd cneifio dafad gyda gwella, a Dafydd Jones (FUW) i ddweud hanes diddorol iawn i ni am drin gwlân. Roedd Julia ac Edith Davies yno yn dangos sut oedd gwehyddu ac Eifiona Davies yn dangos sut roedd hi’n nyddu. Roedd rhain yn bethau nad oedd llawer o’r gynulleidfa wedi eu gweld o’r blaen.
Islwyn Jones oedd yno gyda’i adar ysglyfaethus arbennig iawn, gan gynnwys Elsa’r dylluan enfawr, a Myfanwy a Branwen i enwi rhai! Roedd pawb wrth eu boddau yn cymryd rhan yn ei sioe, yn enwedig pan roedd yr adar yn hedfan atynt.
Roedd Syrcas Cimera yn gwneud gweithdai a pherfformiadau yn ogystal â gweithdai gyda’r plant, roeddent wrth eu boddau yn dysgu sut i gerdded ar stiltiau a jyglo.
Bu’r plant i gyd yn cael blas ar glocsio gyda Hannah Rowlands, creu tariannau gyda’r artistiaid Eleri Jones a Nerys Jones, gemau amrywiol gyda’r Urdd ac fe gafodd bawb rôl mochyn rhôst blasus iawn i ginio gan Oinc Oink.
Pinicl y diwrnod oedd sioe newydd sbon gan Mewn Cymeriad. Fe wnaeth Menter Iaith Conwy gomisiynu Myrddin ap Dafydd i ysgrifennu sioe newydd ar hanes Llywelyn Fawr. Sioe un dyn ydi hi ac roedd yn cael ei pherfformio gan Neil ‘Maffia’ am y tro cyntaf erioed yn Llanrwst. Roedd pawb wedi mwynhau gwylio’r sioe, a cafodd rhai aelodau lwcus o’r gynulleidfa (o bob oed!) y cyfle i gymryd rhan yn y perfformiad – da iawn nhw!
Roedd o’n ddiwrnod cofiadwy iawn, a braf gweld y gymuned gyfan yn dod ynghyd i ddathlu treftadaeth y dref. Diolch yn fawr i bawb a gynigodd gymorth o flaen llaw ac ar y diwrnod, diolch i’r holl arddangoswyr, a diolch i bawb am ddod i ymuno’n y dathlu.