Dyblu’r Defnydd: Haf o Hwyl Menter Iaith Conwy

Awst 1, 2023 | Uncategorized @cy | 0 comments

Dyblu’r Defnydd: Haf o Hwyl Menter Iaith Conwy

Bydd bron i 30 o ddigwyddiadau a gweithgareddau llawn hwyl wedi eu trefnu ledled sir Conwy

yr haf hwn, gyda’r pwyslais ar ddyblu’r defnydd o’r Gymraeg.


Yn ôl y sefydliad cymunedol sy’n gweithio tuag at nod y Llywodraeth o greu miliwn o
siaradwyr Cymraeg, Menter Iaith Conwy, dyma’r arlwy fwyaf o weithgareddau iddynt ei
threfnu i blant, pobl ifanc a siaradwyr newydd dros gyfnod yr haf.


Yn ôl Prif Weithredwr Menter Iaith Conwy, Meirion Ll Davies: “Mae pawb yn gyfarwydd ag
amcan Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ond i mi,
elfen arall cwbl greiddiol i’r gwaith hwnnw, yw dyblu’r defnydd o’r Gymraeg. Heb ddefnyddio’r
iaith, edwino gwnaiff hi.


“Fel rhan o’n gwaith ni, mae’r tîm gwych o staff sydd gennym ni yn y Fenter, wedi bod yn
hynod o brysur yn trefnu pob math o weithgareddau i annog plant, pobl ifanc ac oedolion i’w
trwytho yn y Gymraeg dros yr haf.


“Mae llawer o’r digwyddiadau wedi eu trefnu trwy ein rhwydwaith o bwyllgorau lleol o
wirfoddolwyr sy’n ein cynorthwyo i ymateb i ddyheadau’r cymunedau lleol. Mae hyn yn
grymuso cymunedau i weithredu dros y Gymraeg.


“O sesiynau cerddoriaeth gwerin ar Gei Conwy, i’r Clwb Perfformio draw yn Venue Cymru,
Llandudno. Os mai cyfansoddi a cherddoriaeth sy’n mynd a’ch bryd, bydd cyfle i bobl ifanc
gymryd rhan mewn gweithdai cyfansoddi trwy Bocsŵn.”


Ydych chi’n mwynhau cerdded? Mae taith hanesyddol hynod ddiddorol wedi ei threfnu i
ddysgu mwy am bentrefi’r arfordir o Lanfairfechan i Benmaenmawr.


Bydd yr annwyl Fagi Ann yn dod am dro i ddweud helo wrth y plant iau, tra bydd y Clwb
Antur yn cynnig sbri awyr agored i’r rhai ychydig yn hŷn.


Mae gweithdai wedi eu trefnu ar gyfer siaradwyr newydd ym maes ffotograffiaeth a chyfle i
sgwrsio dros baned yn y clwb ‘Panad a Sgwrs’ er mwyn ymarfer a chlywed y Gymraeg.


“Mae’r arlwy cyfan i’w gweld ar ein tudalen Facebook, felly ewch draw i weld beth sydd i
ddod. Rydyn ni’n ddiolchgar i’r staff ac i’n partneriaid am bob cymorth yn y gwaith paratoi, ac
yn edrych ymlaen at gynnig haf llawn hwyl i’n defnyddwyr yma yn sir Conwy,”
meddai
Meirion Ll Davies.


Am fwy o wybodaeth, ewch i Facebook Menter Iaith Conwy neu am unrhyw ymholiadau
pellach, cysylltwch â’r Fenter ar 01492 642357.

 Cyfle gwych i gwpwl neu deulu rentu tŷ ym Mhenmachno am bris rhesymol. Manylion cyswllt ar yr hysbyseb.