Terfynau Amser y Prosiect: Ebrill 2024 – Tachwedd 2024
Ffi: £3,500 – £7,000
Dyddiad Cau: 12pm, Dydd Mawrth, 2.04.2024
PRIF GYFRIFOLDEBAU
Mae hon yn rhaglen newydd wedi’i hariannu trwy raglen Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru, gyda Chyngor Hil Cymru, Menter Iaith Conwy a Venue Cymru yn gweithio mewn partneriaeth.
Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ymchwil weithredu felly bydd angen i chi fod yn hyderus wrth weithio mewn amgylchedd hyblyg sy’n datblygu drwy’r amser, wrth i ni brofi ffyrdd newydd a gwahanol o gyrraedd cynulleidfaoedd a chyfranogwyr newydd.
Ein nod yw penodi Ymarferwyr Creadigol a fydd yn cyfrannu tuag at ddatblygu’r rhaglen a gyrru gweithgareddau ymlaen. Bydd yn rhaid i chi fod wedi ymrwymo i herio “y ffordd mae pethau’n cael eu gwneud” a bod yn agored i edrych ar eich dysgu a’ch datblygiad eich hun wrth i’r rhaglen fynd rhagddi.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr o gymunedau diwylliannol amrywiol a siaradwyr Cymraeg ar gyfer y rolau hyn. Ar gyfer y rôl hon bydd yn rhaid i chi fod yn hyderus yn cyfathrebu yn Saesneg. Bydd yn angenrheidiol i unigolion nad ydynt yn siarad Cymraeg ddysgu/ wella euCymraeg fel rhan o’r rôl hon.
Byddwch angen ymrwymo i hyrwyddo a sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a chydymffurfio â’r holl ddeddfwriaethau perthnasol.
Rôl Ymarferwyr Creadigol
- Gweithio ar y cyd â phartneriaid rhaglen, y Cynhyrchydd Creadigol,Ymarferwyr Creadigol eraill a chymunedau sy’n cyfranogi, i gyd-greucyfleoedd perthnasol a chreadigol newydd gyda chymunedau diwylliannol amrywiol a chymunedau Cymraeg. Cynhelir digwyddiadau ym mhob rhan o Gonwy.
- Dod â’ch profiad eich hunain i’r rhaglen greadigol gan gymryd rhan a rhannu mewn trafodaethau sy’n herio ffyrdd traddodiadol o weithio a dechrau tynnurhwystrau i greu, cyfranogi ac ymgysylltu.
- Cyfrannu tuag at ddyfeisio dulliau perthnasol newydd o gyrraedd cynulleidfaoedd, cyfranogwyr a phobl greadigol trwy sgwrsio, cydweithio a chyd-greu.
- Ymrwymo i gyfleoedd i ddatblygu eich dysgeidiaeth a’ch datblygiad proffesiynol eich hun.
- Cynllunio a chynnal cyfleoedd datblygu ar gyfer pobl ifanc i ganfod llwybrau gyrfaoedd yn y celfyddydau ac o bosibl, cael pobl ifanc i gysgodi eich gwaith.
- Canfod cyfleoedd posibl ar gyfer dysgu cydweithredol gyda phrosiectau creadigol eraill yng Nghonwy.
- Gallu sicrhau bod yr holl weithgareddau’n cydymffurfio â deddfwriaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Diogelu a pholisïau partneriaid.
- Cefnogi i gasglu data monitro perthnasol ar gyfer y prosiect lle bo’n briodol a chymryd rhan mewn gweithgareddau gwerthuso.
Profiad
- Angerdd ar gyfer y celfyddydau a phrofiad o ddarparu prosiectau cyd-greu gydag ystod eang o gynulleidfaoedd.
- Profiad o weithio gydag ystod eang o gymunedau a’u cefnogi i wneud dewisiadau ac archwilio eu creadigrwydd a’u diddordebau eu hunain fel cyfranogwyr, pobl greadigol a chynulleidfaoedd.
- Ymrwymiad amlwg i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y celfyddydau.
- Ymrwymiad i ddiogel a dathlu’r Gymraeg a gwella eich gwybodaeth eich hun o’r Gymraeg.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol.
- Yn teimlo’n angerddol am eich datblygiad a’ch dysgu eich hun.
- Dealltwriaeth o ddulliau ymchwil gweithredu – dymunol ond nid yn hanfodol.
- Yn hyderus i weithio’n hyblyg a helpu i lunio rhaglen ar wahanol gamau dysgu.
- Sgiliau trefnu cryf.
- Y gallu i wneud sawl peth ar yr un pryd ac i aros yn ddigynnwrf mewn sefyllfaoedd anodd.
- Rhaid bod yn ddibynadwy ac yn llawn hunan-gymhelliant, meddu ar agwedd gadarnhaol iawn ac yn aelod da o dîm.
- Bydd angen i chi gyflawni gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd os cewch gynnig y swydd hon.
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl neu’r prosiect cysylltwch â:
Claire Turner, Ymgynghorydd Creadigol:
Ffôn: 07879 426491
E-bost: claire@claireturner.net
Manon Prysor, Cynhyrchydd Creadigol:
Ffôn: 07762 745104
E-bost: manon@theatrprysor.cymru
I wneud cais:
- cyflwynwch fywgraffiad o’ch profiad celfyddydol a diwylliannol; un ai yn ysgrifenedig neu fel fideo byr (dim mwy na 4 munud), a’ch CV yn datgan yn
- glir pam eich bod â diddordeb yn y rôl hon;
- crynodeb o’r rhesymau pam mai chi yw’r unigolyn cywir ar gyfer y rôl ynseiliedig ar y prif gyfrifoldebau a phrofiad.
- dadansoddiad o’r ffi dros oes y prosiect.
- Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Gallwch gyflwyno eich cais yn ysgrifenedig neu fel fideo digidol.
Anfonwch eich cais drwy e-bost at Helen Davies : helen.e.davies@venuecymru.co.uk
Bydd y cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Ddydd Mawrth, 09.04.24 yn Venue Cymru, Llandudno.
Dogfennau: