Er nad oes posib i ni gyfarfod yn gymdeithasol am y tro, mae’n bwysig nad ydi hyn yn ein rhwystro rhag parhau i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ymysg trigolion Sir Conwy a thu hwnt.
Rydym yn Menter Iaith Conwy wedi cyhoeddi rhaglen o weithgareddau y bydwn yn eu cyhoeddi yn ddyddiol i’ch helpu i barhau i wneud defnydd o’r Gymraeg o fewn pedair wal eich cartref.
Rydym yn ceisio apelio at bob grŵp oedran – o’r plant iau i’r rhai ychydig hŷn, i’r bobl ifanc ac oedolion hefyd.
Y ffordd orau i dderbyn y diweddariadau yw i’n dilyn ni ar ein cyfrifon cymdeithasol @miconwy – Twitter / Facebook / Instagram a TikTok (ia, Tik Tok!)
Cofiwch roi gwybod os oes gennych chi unrhyw syniadau yr hoffech ein gweld yn eu gwneud (neu drio eu gwneud!). Er bod y swyddfa ar gael mae dal modd cysylltu â ni ar y ffyrdd arferol sef trwy’r cyfrifon uchod, trwy e-bostio post@miconwy.org neu drwy ffonio 01492 642 357.
Gadewch i ni drio cael ychydig o hwyl trwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod y cyfnod chwerw hwn – a cofiwch y daw eto haul ar fryn 🌈