Hwyl Hanner Tymor

Hyd 14, 2019 | Digwyddiadau | 0 comments

Mae gennym ni hanner tymor prysur iawn o’n blaenau – os ‘dach chi’n chwilio am rywbeth i gadw’ch rhai bach yn brysur yn ystod yr wythnos – dyma beth sydd gennym i’w gynnig i chi!

GWEITHDAI CERDDORIAETH
Rydm bellach wedi lawnsio cynllun Bocsŵn yn sir Conwy – hwrê! Fel rhan o’r cynllun hwn, rydym yn cynnig y cyfle i gerddorion bach a mawr y sir i ddatblygu eu sgiliau cerddorol trwy ddysgu sut i gyfansoddi, i ysgrifennu, i berfformio, ac i recordio caneuon fel band. Yn ystod hanner tymor yr Hydref, rydym yn eic h gwahodd i gymryd rhan yn y gweithdai…
BLWYDDYN 7 +: 28 + 29 o Hydref
BLWYDDYN 3 – 6: 30 o Hydref

mwy o fanylion ar y poster isod – cysylltwch i archebu

GWEITHDAI CELF
Ar y 29ain o Hydref, bydd cyfle i blant gymryd rhan mewn gweithdai celf, wedi eu trefnu ar y cyd â Llais Llan – Cymdeithas Gymraeg Glan Conwy, a Mostyn. Cyfle i blant oedran 5 – 14 mlwydd oed i greu golygfa tân gwyllt, neu mygydau theatraidd.
mwy o fanylion ar y poster isod – cysylltwch i archebu

DISGO CALAN GAEAF
Ar y 31ain o Hydref, byddwn yn cynmryd rhan yn Diwrnod Dychrynllyd Llyn Brenig, trwy gynnal disgo Calan Gaeaf. Dewch draw i’w gweld, efallai y gwelwch chi Magi Ann yn dawnsio’n y cefndir!
mwy o fanylion ar y poster isod – edrychwch ar dudalen Facebook Llyn Brenig

 Cyfle gwych i gwpwl neu deulu rentu tŷ ym Mhenmachno am bris rhesymol. Manylion cyswllt ar yr hysbyseb.