Braf oedd gweld amrywiol Bwyllgorau Ardal y Glannau’n weithgar dros gyfnod gaeaf / gwanwyn 2023, gyda nifer o ddigwyddiadau llwyddiannus wedi’u trefnu, er enghraifft:
Bae Colwyn:
Daeth dros 300 draw i Theatr Colwyn i fwynhau gig Dafydd Iwan a’r Band, gyda’r band newydd o Ddyffryn Conwy – Yr Anghysur yn cefnogi. Roedd yn noson werth chweil – diolch i’r theatr ac i’r artistiad am helpu i greu noson gofiadwy!
Abergele:
Roedd Clwb Golff Abergele dan ei sang ar gyfer Noson Gomedi yng Nghlwb Golff Abergele gyda’r Tri Digri a Hywel Pitts yn diddanu. Mae pwyllgor Abergele hefyd wedi bod yn cynnal noson gwis ddwyieithog lwyddiannus yng Ngwesty’r Tarw/Bull, gyda rhagor o nosweithiau cwis a digwyddiadau eraill ar y gweill dros y misoedd nesaf.
Llanfairfechan:
Ym mis Mawrth, daeth Gwilym Bowen Rhys a SERA draw i ystafell gefn glyd Gwesty Pen y Bryn i gynnal noson werinol hyfryd, gyda oddeutu 50 yn bresennol. Noson dda.
Os hoffech chi fod yn rhan o Bwyllgor Ardal yn Sir Conwy gan helpu i drefnu digwyddiadau Cymraeg, cysylltwch â ni!