Lockdown Rock ar Ras

Awst 28, 2020 | Newyddion | 0 comments

Ewch i wrando ar gân newydd sbon band ifanc o Ddyffryn Conwy, a recordiwyd yn ystod y cyfnod clo o bedwar cartref gwahanol – o Gonwy i Gaerdydd!

Bu’r criw sydd rhwng 13 – 15 mlwydd oed yn cyfarfod yn wythnosol yn adeilad Menter Iaith Conwy ar ddechrau’r flwyddyn, ond yn anffodus daeth hynny i ben yn dilyn cyfyngiadau lockdown mis Mawrth. Ond, trwy wyrth technoleg rhaglen Zoom mae’r criw, dan arweiniad Llŷr Parri (un o’n tiwtoriaid Bocsŵn yng Nghonwy) wedi llwyddo i barhau i gyfarfod yn wythnosol a chydweithio ar ysgrifennu a recordio cân newydd sbon – ‘Lockdown Rock ar Ras’.

Fel y gallwch ddyfalu o deitl y gân, cafodd yr hogie eu hysbrydoli i ysgrifennu’r geiriau am y profiad o chwarae mewn band dros Zoom, ac anawsterau fel Noa’n hwyr, fod Owain ar mute – a bod gan Brenig gath ddireidus oedd yn mynnu chwarae gyda gwifrau ei gyfrifiadur!

Roedd y broses o recordio cân o bedwar cartref gwahanol yn dipyn o sialens, yn enwedig gan eu bod wedi arfer cyd-chwarae cyn y lockdown. Roedd yn broses o wrando ar ein gilydd a rhannu a datblygu syniadau. Aeth pawb ati wedyn i recordio eu rhannau unigol, a llwyddodd Llŷr i blethu’r cyfan at ei gilydd i greu cân unedig sy’n nodi profiadau’r cyfnod clo i’r band.

Rydym yn Menter Iaith Conwy yn hynod ddiolchgar am nawdd gan Gyngor y Celfyddydau sydd yn ein galluogi i gynnal y cynllun Bocsŵn yn y sir. Diolch hefyd i Llŷr am ei holl waith gyda’r criw. Dim ond un rhan o’r cynllun yw’r gweithdai band uwchradd, ac rydym yn edrych ymlaen at gael parhau gyda gweddill y prosiect pan fydd hynny’n bosib.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cerddoriaeth cofiwch edrych allan am ddatblygiadau’r cynllun Bocsŵn yng Nghonwy trwy ein dilyn ar ein cyfryngau cymdeithasol a’n safle we. Mae croeso i chi gysylltu â ni i wybod mwy ar siwan@miconwy.cymru.