Rydym yn falch o gyhoeddi adroddiad diwedd prosiect Dathlu Treftadaeth Llanrwst, sydd wedi bod yn rhan hollbwysig o’n gwath fel Menter Iaith Conwy dros y ddwy flynedd diwethaf.
Sbardunodd y prosiect o’r Flwyddyn y Chwedlau, ond tyfodd yn rhywbeth llawer mwy erbyn y diwedd. Rydym yn falch iawn o ganlyniadau’r prosiect gan fod nifer helaeth wedi cael budd o’r gwaith, gan ddysgu am dreftadaeth lleol a bod yn greadigol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Dyma grynodeb byr o’r adroddiad, ond cliciwch ar y ddolen i ddarllen yr adroddiad yn llawn. Mae’n werth ei ddarllen ac mae’r lluniau’n werth i’w gweld!
Un elfen o’r prosiect sy’n sefyll allan yw Telyn Llanrwst, dan arweiniad y cydlynydd, Elin Angharad Davies. Pinacl yr elfen hon oedd Diwrnod Dathlu’r Delyn lle cafwyd dros 250 o fuddiolwyr trwy’r dydd – braf iawn edd cael croesawu unigolion o bob oedran, o bob cwr o Gymru i ddathlu’r delyn gyda sawl gweithgaredd. Rhan arall o’r prosiect hwnnw oedd y gweithdai telyn, lle aeth Elin o gwmpas ysgolion ardal wledig Conwy i adrodd hanes y delyn deires i gyfanswm o 512 o blant!
Bu’r bobl ifanc hefyd yn brysur iawn yn gweithio ar berfformiad bythgofiadadwy yn yr awyr agored – yn y Caerdroia yng Nghoedwig Gwydir. Diolch i Theatr Dan y Coed, Mair Tomos Ifans a Fiona Collins am eu gwaith gyda’r 54 o blant a phobl ifanc.
Elfen arall i ysgogi creadigrwydd plant Llanrwst oedd y ffilm animeiddio dan arweiniad cwmni Sbectol cyf. I wylio ‘Llanrwst yn Llosgi‘ cliciwch isod.
Comisiynwyd cwmni Mewn Cymeriad a Myrddin ap Dafydd i greu sioe un-dyn ar hanes Llywelyn Fawr – sydd wedi bod yn boblogaidd iawn gan y cannoedd o bobl sydd wedi cael y cyfle i’w gwylio! Cawsom y cyfle i lwyfannu’r sioe ar ein stondin ar faes Eisteddfod Sir Conwy 2019.
Heb os, un o uchafbwyntiau’r prosiect oedd Diwrnod Dathlu Treftadaeth Llanrwst, lle daeth dros 350 o bobl draw i gaeau Ysgol Bro Gwydir i fwynhau ystod eang o weithgareddau fu’n mynd ymlaen yn y dref dros y blynyddoedd. Gwyliwch fideo o’r diwrnod yma.
Mae Llinell Amser Llanrwst yn clymu’r prosiect i gyd at ei gilydd, ac yn gofnod byw o hanes y dref. Gallwch weld y llinell amser yma.
Diolch i bawb fuodd yn rhan o’r prosiect i sicrhau ei lwyddiant. Gobeithio y cawn y cyfle i weithio ar brosiect mor gyffroes â hwn eto yn y dyfodol agos – cofiwch anfon eich syniadau atom!