Cynllun EgNi
Yn dilyn ein gwaith â Phwyllgor Ardal Uwch Aled a dadansoddi fframwaith “Cymdogaethau Cymraeg Ffyniannus” ac ein rhaglen Mentrau Cymdeithasol daethpwyd i ddeall mai is-adeiladwaith ac economi oedd un o’r meysydd oedd yn bygwth dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol. Rydym yn gweld y maes egni amgen fel cyfle i greu adnoddau a gwaith i gymunedau gwledig canran Cymraeg uchel.
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar gynllun penodol;
- Awdit Egni Ysbyty Ifan – Cynllun i fesur defnydd egni a ffyrdd o gynhyrchu a defnyddio egni yn lleol. Syniad hyn yw cynorthwyo neud pentref Cymraeg ei hiaith yn fwy cynaliadwy.
Cynllun Hyfforddiant Awyr Agored
Roedd canlyniad Astudiaeth ddiweddar gan Brifysgol Bangor yn dangos bod prinder mawr yn y nifer o siaradwyr Cymraeg sy’n gweithio o fewn y diwydiant antur awyr agored yn y gogledd Orllewin; gyda dim ond 5% yn medru’r Gymraeg. Felly fel adwaith i hyn mae Menter Iaith Conwy yn ceisio newid y sefyllfa trwy gymhwyso mwy o Gymru Cymraeg yn y maes gan greu cyflogaeth gynaliadwy lleol, a chymreigio’r diwydiant awyr agored yng Nghymru. Be bynnag yw eich diddordeb o gerdded i ddringo, beicio i ganŵio fe wnawn ein gorau i’ch cymhwyso yn eich camp.
Y Clwb Eirafyrddio
Yn flynyddol, mae Menter Iaith Conwy yn cynnal clwb eirafyrddio cyfrwng Cymraeg yn ystod misoedd yr Hydref a’r Gaeaf. Mae’r clwb yn un wythnosol sy’n cael ei gynnal ar Lethr Sgio Llandudno.
Mae’r Clwb bellach wedi ail-gydio ar gyfer tymor ’23/’24. Cynhelir y Clwb bob nos Lun a Mawrth, 6:30 – 8pm.
Cost: £18 y sesiwn a £20 i ymaelodi.
I archebu lle, cysylltwch â Bedwyr Ap Gwyn, ein Swyddog Datblygu Asiantaeth Awyr Agored.
Cynllun Mentrau Cymdeithasol Cymraeg
Er mwyn datblygu’r potensial yn y maes yma rydym wedi bod yn cyflogi swyddog i gynorthwyo a chefnogi’r grwpiau lleol sydd eisoes wedi ffurfio dan fantell Menter Iaith Conwy, yn ogystal â chydweithio â chymunedau a chymdogaethau Cymraeg eraill i wneud yr un peth. Y nod fyddai datblygu’r grwpiau fel bod modd iddynt;
- ddatblygu cyfleoedd i wella’r ddarpariaeth Gymraeg sydd ar gael yn yr ardal.
- neu i fantesio ar gyfleoedd economaidd er mwyn creu swyddi i siaradwyr Cymraeg.
Drwy ddatblygu mentrau lleol bydd mwy o gyfleoedd i greu swyddi newydd ac annog mentergarwch ymhlith cymunedau Cymraeg gan sicrhau sylfaen gref i’r Gymraeg fel sgil neu arf economaidd.
Mae hefyd yn strategaeth gan Fenter Iaith Conwy i ddatblygu “Mentrau Cymdeithasol” i gryfhau sefyllfa’r Gymraeg (trwy ddarparu cyfleoedd/gwasanaethau), fydd hefyd yn dod yn hunangynhaliol ac yn creu ffrydiau incwm ychwanegol i Fenter Iaith Conwy. Mae hyn hefyd yn cynorthwyo i greu swyddi newydd fydd yn fodd o atal allfudo.