Sefyllfa’r Gymraeg yn Sir Conwy
Mae Censws 2021 yn dangos fod 25.9% o boblogaeth Sir Conwy yn gallu siarad Cymraeg – mae hyn yn uwch na chanran poblogaeth Cymru sydd yn 17.8%. Er hyn, mae’r canran o siaradwyr Cymraeg yn y Sir wedi gostwng 1.4% ers y Cyfrifiad diwethaf yn 2011.
Rhaid cofio hefyd bod sefyllfa’r Gymraeg yn amrywio o ardal i ardal yn y Sir – gyda’r gwahaniaeth mwyaf yn Sir Conwy rhwng y Gonwy wledig ac ardal y Glannau.
Eisiau dysgu mwy am sefyllfa’r Gymraeg yn Sir Conwy? Cymerwch olwg ar y dogfennau isod:
- Proffil yr Iaith Gymraeg Menter Iaith Conwy
-
Dadansoddiad o Gyfrifiad 2021 Sir Conwy
-
Dadansoddiad Cenedlaethol o gyfrifiad 2021
Dim ond un sefydliad ydi Menter Iaith Conwy mewn clwstwr o sefydliadau sy’n gweithio i gefnogi’r Gymraeg ar hyd a lled sir Conwy. Dyma restr o’n partneriaid sy’n rhan o Fforwm Iaith Sir Conwy. Rydym yn cydweithio’n effeithiol i hyrwyddo a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y sir:
Rydym i gyd (a sawl un arall) yn gyfrifol am hwyluso defnydd y Gymraeg ymysg pob oedran o fewn sir Conwy a bob amser yn croesawu awgrymiadau ac ymholiadau.