Y Gymuned

Aelodau o gymunedau Sir Conwy yw bwrdd rheoli MIConwy. Nhw y Cyfarwyddwr Datblygu a’r staff sydd yn penderfynu trywydd y MIConwy.

Yn ogystal ac y rhain yma rydym yn ceisio annog cyfranogaeth pellach trwy ein pwyllgorau ardal a pwyllgorau prosiect;

Y Pwyllgorau Ardal

Mae ein pwyllgorau ardal yn hanfodol i weithrediad holl gynlluniau MIConwy. Maent yn ein galluogi ni i:

  • Ddod i ddeall beth yw yr heriau sydd yn wynebu’r iaith mewn cymunedau ar lawr gwlad.
  • Gweithredu rhaglenni gwaith sydd yn gymysgedd o weithredu targedau’r Llywodraeth a blaenoriaethau lleol
  • Cynorthwyo i godi cymhwysedd siaradwyr Cymraeg i weithredu o blaid y Gymraeg yn eu cymunedau.

Dyma restr o’n Pwyllgorau Ardal;

Arfordirol

  • Penmaenmawr a Llanfairfechan, sef Pwyllgor Ardal Pen-llan
  • Llandudno a Bae Colwyn, sef Pwyllgor Ardal y Creuddyn
  • Abergele
  • Tref Conwy a’r cyffiniau

Gwledig

  • Penmachno
  • Glan Conwy
  • Yn dilyn ymadawiad CGI Llanrwst, mi fydd MIConwy yn cynorthwyo’i phwyllgor i ddenu nawdd a gweithredu rhaglen leol. Bydd y pwyllgor yn dod yn rhan o rwydwaith y Pwyllgorau Ardal.
  • Cerrigydrudion
  • Capel Garmon
  • Llanfair Talhaiarn