Er gwaetha’r gwynt a’r glaw, cafwyd wythnos i’w chofio yn Llanrwst wythnos diwethaf. Roedd bwrlwm amlwg i’w weld o gwmpas y dref a’r sir gyfan yn ystod yr wythnosau’n arwain at y Steddfod, a chawson ni ddim ein siomi.
Roedd gan Menter Iaith Conwy stondin ar y cyd â’r Mentrau Iaith, Cymraeg Byd Busnes, Cyngor Tref Llanrwst a John Muier, a bu hi’n wythnos brysur, ond llwyddiannus tu hwnt ar faes y Steddfod, a hefyd o fewn tref Llanrwst.
Bu llu o weithgareddau i blant ar y stondin, fel y gwelwch o’r lluniau isod, gan gynnwys gweithdy iwcaleles, hwyl gyda Magi Ann a Selog, helfa drysor i blant, gweithdy Tant i’r Plant, gan Hefina o Telynnau Tandderwen, a sioe Mewn Cymreiad, Harri Liwt ei Hun, a gafodd ei chomisiynu trwy ein prosiect Dathlu Treftadaeth Llanrwst. Roedd y plant i gyd yn mwynhau, a’r rhieni’n mwynhau cael seibiant ar y soffas! Diolch i Gai Toms hefyd am ddod i’r stondin i ddiddanu’r Eisteddfodwyr ac i hysbysebu ei albwm newydd.
Ynghlwm â chynllun Cymraeg Byd Busnes, a’r Cynllun Awyr Agored, daeth llu o fusnesau draw i’r stondin i arddangos eu gwaith, a dangos sut mae’r Gymraeg yn chwarae rhan allweddol o fewn rhediad eu busnes. Diolch yn fawr i bob un a ddaeth draw i wneud amryw o weithgareddau, roedd cael eich cwmni yn braf!
Bu’r stondin hefyd yn gartref i lansiad nofel arbennig iawn, gan gyn aelod o staff y Mentrau, sef Rebecca Roberts. Mae ei llyfr, Mudferwi, a gafodd ei lawnsio ar y stondin ddydd Mercher diwethaf, bellach ar gael yn eich siop lyfrau lleol.
Mae Eisteddfod 2019 hefyd n nodi dwy flynedd ers i brosiect Cymraeg Byd Busnes ddechrau ledled Cymru, ac fe gynhaliwyd derbyniad i nodi hynny ar faes yr Eisteddfod. Diolch yn fawr i’r siaradwyr; Eluned Morgan AC, Daniela Shlick, Cydlynydd Cymraeg Byd Busnes, Iwan Hywel, Mentrau Iaith a Nicola o gwmni Nico Travel, sydd wedi bod yn cydweithio â Nia Morris, Swyddog CBB Conwy a Sir Ddinbych i ddefnyddio mwy o Gymraeg o fewn ei chwmni trefnu teithiau.
Heb os, uchafbwynt yr wythnos i ni fel Menter Iaith Conwy oedd ein parti pen-blwydd i ddathlu 20 mlynedd o waith y Fenter. Diolch i Meirion Davies, Ioan Talfryn a Huw Prys Jones am siarad am hanes y fenter dros y blynyddoedd, a diolch i bawb am ddod draw i ddathlu gyda ni. Roedd yn braf cael aduniad gyda chyn aelodau staff a chyfarwyddwyr, gan ddathlu gwaith Menter Iaith Conwy dros yr ugain mlynedd diwethaf… ymlaen i’r ugain nesaf!
Diolch i bawb am ei gwneud hi’n wythnos i’w chofio – a phob lwc i Menter Iaith Cered ac i dref Tregaron flwyddyn nesaf. Dani’n edrych ‘mlaen yn barod!
- Dwylo Prysur
- Iwcaleles
- Siop Sioned – Busnes y Dydd
- Stori gyda Marged a Magi Ann
- Gweithdy Iwcalele
- Tant i’r Plant gan Hefina Telynau Tandderwen
- Telynorion y Dyfodol
- Carcharor yn sioe Harri Liwt ei Hun
- Pawb yn hoffi Magi Ann
- Cŵl!
- Dathlu 20 mlynedd MIConwy
- Enillwyr Helfa Drysor
- Magi Ann yn gwneud ffrindiau
- Del
- Cacen Flasus 20
- Busnesau Awyr Agored
- Glitter a Gwallt
- Tsunami – Busnes y Dydd
- Derbyniad Papurau Bro
- Harri Liwt ei Hun
- Nia Owens, un o gyfarwyddwyr y Fenter
- Eluned Morgan
- Dathlu’r Gymraeg yn y Gymuned
- Y Gist Drysor
- Parti
- Selog a Magi Ann a staff y Mentrau
- Myfyrwyr Coleg Llandrillo yn arwain sesiwn stori gyda Magi Ann
- Rebecca Roberts
- Addurno’r Swyddfa
- Gai Toms
- EISTEDDFOD