Swydd Wag – Swyddog Ardal Wledig Conwy a Dinbych

Menter Iaith Conwy a Menter Iaith Sir Ddinbych

Disgrifiad Swydd

Teitl y Swydd: Swyddog Ardal Wledig Sir Conwy a Sir Ddinbych (Ardaloedd Uwch Aled, Bro Aled a Llanrhaeadr yng Nghinmeirch).

1. Cefndir

1.1 Sefydlwyd Menter Iaith Conwy ym mis Medi 2003 yn dilyn diddymu Menter Iaith Dinbych-Conwy a fu mewn bodolaeth ers 1998. Mae dalgylch y Fenter yn cyfateb â ffiniau’r Cyngor Sir sydd yn ymestyn o’r glannau i berfeddion cefn gwlad.

1.2 Cryfhau’r Gymraeg a’n cymunedau yw ein nod. Gwnawn hyn drwy
fod yn gorff deinamig ac effeithiol sydd yn gallu ymateb yn gyflym a dychmygus i’r heriau sydd yn wynebu cymunedau Sir Conwy. Byddwn yn ymdrechu yn barhaus i ddeall y sefyllfa iaith o fewn y Sir a’i chymunedau a defnyddio hyn fel sail i weithredu. Byddwn yn gweithredu fel catalydd i alluogi pobl Sir Conwy i gymryd cyfrifoldeb am gynlluniau a’u gwireddu. Byddwn hefyd yn cydweithio i wireddu cynlluniau cenedlaethol ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Gwnawn hyn trwy fagu diwylliant o hyder a phenderfyniad yn ein staff a gwirfoddolwyr.

1.3 Mae gweithgareddau’r Fenter yn cynnwys:

Cynorthwyo’r sector gwirfoddol i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg

Hwyluso gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol ac addysgiadol i bobl o bob oed

Darparu cyfleoedd hamdden i blant a phobl ifainc

Cynyddu’r defnydd o’r iaith a chodi hyder siaradwyr Cymraeg

Annog y di-Gymraeg i fabwysiadu agweddau cadarnhaol tuag at yr iaith a hyrwyddo cynlluniau i gymhathu mewnfudwyr

Darparu cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol

Hyrwyddo ymgyrchoedd marchnata i godi proffil yr iaith

Codi ymwybyddiaeth ymhlith rhieni newydd a darpar-rieni o bwysigrwydd trosglwyddiad iaith yn y cartref

Hyrwyddo addysg Gymraeg

Gweithredu fel canolfan wybodaeth ac adnoddau

Gweithio mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus ar gynlluniau strategol sy’n effeithio ar gyflwr yr iaith

Cyfrannu i strategaethau adfywio cymunedol ac economaidd

Codi proffil y Fenter yn y wasg a’r cyfryngau

Cydweithio â Mentrau Iaith eraill yn rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn rhannu arferion da

Cynnig hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith

2. Atebolrwydd:

2.1 Bydd y Swyddog Ardal Weledig yn atebol o ddydd i ddydd i Prif Weithredwr Menter Iaith Conwy ac i Brif Swyddog Menter Iaith Sir Ddinbych ac i Bwyllgor Rheoli Menter Iaith Conwy.

3. Prif Gyfrifoldebau’r Swydd:

Cynorthwyo a datblygu Pwyllgorau Ardal; Uwch Aled a Bro Aled, Sir Conwy; a Llanrhaeadr yng Nghinmeirch a Prion, Saron, Nantglyn a’r ardal yn Sir Ddinbych.

Cynorthwyo Aelwydydd a Chlybiau Ieuenctid ar y cyd efo’r Urdd a Gwasanaeth Ieuenctid y Sir.

Sesiynau a digwyddiadau penodol i siaradwyr newydd (dysgwyr) gael defnyddio eu Cymraeg tu allan i dosbarth ar y cyd efo’r sefydliad cenedlaethol Dysgu Cymraeg.

Clwb Awyr Agored cyfrwng Cymraeg yn yr ardal (ar y cyd efo’r Urdd a Chwaraeon Cymru)

Ymholi i weld pa weithgarwch cymdeithasol Cyfrwng Cymraeg sydd ei angen a wedyn ei ddarparu.

Cydweithio efo Mudiad Meithrin a Chymraeg i Plant i ehangu ei gwasanethau yn yr ardal.

Byddwn hefyd yn ymgynghori yn bellach efo’n partneriaid trwy y Fforwm Sirol i cynllunio yn fwy strategol yn yr ardal.

Gweithio efo busnesau yr ardal i amlygu’r Gymraeg.

Ail-sefydlu Clwb Busnes Hiraethog.

Gwaith Cyfrwng Cymraeg. Hoffem amlygu cyfleoedd i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwn yn cydweithio ag Ysgolion a Choleg Llandrillo i amlygu cyfleoedd sydd ar gael i weithio drwy’r Gymraeg. Er enghraift, mae prinder o weithwyr Gofal Plant yn y ddwy Sir. Byddwn yn cydweithio efo Mudiad Meithrin a Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg (a sefydlwyd gan Menter Iaith Conwy) i ddatblygu’r agwedd yma.

Cofrestru gwiriad drwy’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd GDG a mynychu hyfforddiant Amddiffyn Plant a Gwaith Ieuenctid.

Paratoi asesiadau risg ar gyfer digwyddiadau maes.

Hyrwyddo gwaith y fenter trwy’r wasg a chyfryngau cymdeithasol.

Cysylltu efo cynllun Perthyn o fewn Cwmpas (Perthyn – Cwmpas) os oes awydd gan Cymuned i sefydlu Menter Cymunedol cymdeithasol newydd i ddarparu gwasanaethau.

Cydweithio efo’r sefydliad ‘Dysgu Cymraeg’ (Croeso | Dysgu Cymraeg) er mwyn hyrwyddo cyfleoedd i ddysgu Cymraeg a chefnogi teuluoedd di-Gymraeg i gymhathu trwy gweithgarwch cymdeithasol a hyfforddiant.

3. Sgiliau a Gwybodaeth Angenrheidiol:

Person ymrwymedig i’r Gymraeg ac yn frwdfrydig dros ei hyrwyddo

Meddu ar syniadau blaengar

Gallu trefnu gwaith heb gyfarwyddyd uniongyrchol

Gallu gweithio’n effeithiol fel aelod o dîm neu’n annibynnol

Gallu cydweithio ac ysbrydoli eraill

Trefnus ac effeithiol, ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da

Rhugl ddwyieithog – ar lafar ac ysgrifenedig

Meddu ar sgiliau technoleg gwybodaeth da

Y gallu i yrru car yn hanfodol

Byddai profiad neu gymhwyster o weithio gyda phlant neu bobl ifanc yn fanteisiol

Byddai profiad o weithio yn ddwys gyda teuluoedd a phlant ifanc yn fanteisiol

Byddai adnabyddiaeth o’r ardal yn fanteisiol

Byddai Gradd neu safon addysg uchel o fantais

Byddai profiad neu gymhwyster amddiffyn plant yn fanteisiol.

4. Amodau a Thelerau:

4.1 Cynigir cytundeb 3 blynedd i gychwyn. Bydd cynaliadwyedd hir- dymor y swydd yn ddibynnol ar sicrhau cyllid digonol ac ar adolygiadau perfformiad boddhaol.

4.2 Lleolir y swydd yn swyddfa Menter Iaith Conwy yn Llanrwst a Swyddfa Menter Iaith Sir Ddinbych efo’r gobaith o ddatblygu gofod gweithio yn ardal Hiraethog. Bydd modd gweithio o adref hyd at 50% o amser y swydd hefyd.

4.3 Oriau gwaith arferol y swyddfa yw 9.00am – 5.00pm, ond oherwydd natur y swydd disgwylir i’r sawl a benodir weithio’n aml gyda’r hwyr ac ar benwythnosau. Cynigir amser in lieu yn lle hynny drwy gytundeb â’r Rheolwr linell.

4.4 Cynigir 24 diwrnod (pro rata) o wyliau yn ystod y flwyddyn yn ychwanegol at wyliau statudol – bydd hyn yn codi i 1 diwrnod y flwyddyn tan diwedd y cytundeb(i 26 diwrnod). Cynigir rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn newydd yn wyliau yn ogystal â Dydd Gŵyl Dewi yn wyliau hefyd.

Ffôn – (01492) 642357

E-bost – meirion@miconwy.cymru