Swyddog Abergele a’r Ardal
(Swydd Ddisgrifiad isod)

Disgrifiad Swydd
Teitl y Swydd: Swyddog Ardal Abergele
1.1 Sefydlwyd Menter Iaith Conwy ym mis Medi 2003 yn dilyn diddymu Menter Iaith Dinbych-Conwy a fu mewn bodolaeth ers 1998. Mae dalgylch y Fenter yn cyfateb â ffiniau’r Cyngor Sir sydd yn ymestyn o’r glannau i berfeddion cefn gwlad.
1.2 Prif nod y Fenter yw hyrwyddo a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn ffiniau Sir Conwy.
1.3 Mae gweithgareddau’r Fenter yn cynnwys:
Hyrwyddo a chreu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.
Ein Swyddogion Maes sydd yn arwain ar y gwaith yma. Yn sylfaenol, maent yn adnabod angen yn lleol lle mae modd i ni gydweithio i ddarparu digwyddiadau sydd yn cynyddu defnydd o’r Gymraeg. Byddwn yn gweithio yn agos efo ysgolion lleol a phartneriaid yn y maes. Mae ein pwyllgorau bro yn hanfodol wrth fapio angen cymunedau am weithgarwch. Yn aml mae pwyllgor bro yn ein hysbysu o gynlluniau sydd efo potensial mwy mewn ardal. Mae’r cynlluniau yma wedyn yn cael eu datblygu yn fwy penodol o dan y pennawd nesaf, sef:
Cryfhau’r Gymraeg drwy gynlluniau economaidd.
Rydym yn ceisio datblygu cynlluniau sydd yn arwain at gynnydd mewn cyflogaeth a gwasanaeth cyfrwng Cymraeg. Mae ein cynllun Cyfieithu Cymunedol, Awyr Agored, Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg, Bys a Bawd Pawb yn esiamplau o gynlluniau o’r fath.
2.1      Bydd y Swyddog Ardal Abergele yn atebol o ddydd i ddydd i Prif Weithredwr Menter Iaith Conwy ac i Bwyllgor Rheoli Menter Iaith Conwy. Mi fydden yn gweithio’n agos iawn efo Pwyllgor Ardal Abergele ac yn cysylltu efo’I Cadeirydd yn gyson.
3. Prif Gyfrifoldebau’r Swydd:
- Cynorthwyo a datblygu Pwyllgorau Ardal Abergele
- Cychwyn Pwyllgor newydd yn Ardal Llanfair Talhaearn
- Cynorthwyo Aelwydydd a Chlybiau Ieuenctid ar y cyd efo’r Urdd a Gwasanaeth Ieuenctid y Sir.
- Cynorthwyo efo Datblygiad Academi Perfformio’r Glannau – sydd yn cael ei gynnal yn Abergele.
- Sesiynau a digwyddiadau penodol i siaradwyr newydd (dysgwyr) gael defnyddio eu Cymraeg tu allan i dosbarth ar y cyd efo’r sefydliad cenedlaethol  Dysgu Cymraeg.
- Datblygu Clwbiau Chwareon neu Awyr Agored cyfrwng Cymraeg yn yr ardal (ar y cyd efo’r Urdd a Chwaraeon Cymru)
- Ymholi i weld pa weithgarwch cymdeithasol Cyfrwng Cymraeg sydd ei angen a wedyn ei ddarparu.
- Cydweithio efo Mudiad Meithrin a Chymraeg i Plant i ehangu ei gwasanethau yn yr ardal.
- Byddwn hefyd yn ymgynghori yn bellach efo’n partneriaid trwy y Fforwm Sirol i cynllunio yn fwy strategol yn yr ardal.
- Gweithio efo busnesau yr ardal i amlygu’r Gymraeg.
- Gwaith Cyfrwng Cymraeg. Hoffem amlygu cyfleoedd i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwn yn cydweithio ag Ysgolion a Choleg Llandrillo i amlygu cyfleoedd sydd ar gael i weithio drwy’r Gymraeg. Er enghraift, mae prinder o weithwyr Gofal Plant yn y ddwy Sir. Byddwn yn cydweithio efo Mudiad Meithrin a Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg (a sefydlwyd gan Menter Iaith Conwy) i ddatblygu’r agwedd yma.
- Cofrestru gwiriad drwy’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd GDG a mynychu hyfforddiant Amddiffyn Plant a Gwaith Ieuenctid.
- Paratoi asesiadau risg ar gyfer digwyddiadau maes.
- Hyrwyddo gwaith y menter trwy’r wasg a datblygu ei phresenoldeb ar y chyfryngau cymdeithasol.
- Cysylltu efo cynllun Perthyn o fewn Cwmpas (Perthyn – Cwmpas) os oes awydd gan Cymuned i sefydlu Menter Cymunedol cymdeithasol newydd i ddarparu gwasanaethau.
- Cydweithio efo’r sefydliad ‘Dysgu Cymraeg’ (Croeso | Dysgu Cymraeg) er mwyn hyrwyddo cyfleuoedd i ddysgu Cymraeg a chefnogi teuluoedd di-Gymraeg i gymhathu trwy gweithgarwch cymdeithasol ac hyfforddiant.
Sgiliau a Gwybodaeth Angenrheidiol:
- Person ymrwymedig i’r Gymraeg ac yn frwdfrydig dros ei hyrwyddo
- Meddu ar syniadau blaengar
- Gallu trefnu gwaith heb gyfarwyddyd uniongyrchol
- Gallu gweithio’n effeithiol fel aelod o dîm neu’n annibynnol
- Gallu cydweithio ac ysbrydoli eraill
- Trefnus ac effeithiol, ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da
- Rhugl ddwyieithog – ar lafar ac ysgrifenedig
- Meddu ar sgiliau technoleg gwybodaeth da
- Y gallu i yrru car yn hanfodol
- Byddai profiad o weithio mewn Menter Iaith yn fanteisiol
- Byddai profiad o weithio efo Cymynedau yn fantesiol
- Byddai profiad neu gymhwyster o weithio gyda phlant neu bobl ifanc yn fanteisiol
- Byddai profiad o weithio yn ddwys gyda teuluoedd a phlant ifanc yn fanteisiol
- Byddai adnabyddiaeth o’r ardal yn fanteisiol
- Byddai Gradd neu safon addysg uchel o fantais
- Byddai profiad neu gymhwyster amddiffyn plant yn fanteisiol.
4.1 Cynigir cytundeb hyd 2 flynedd i gychwyn. Bydd cynaliadwyedd hir-dymor y swydd yn ddibynnol ar sicrhau cyllid digonol ac ar adolygiadau perfformiad boddhaol.
4.2 Lleoliad: Lleolir y swydd yn Abergele a’r ardal ond bydd disgwyl i chi weithio o Swyddfa Menter Iaith Conwy yn Llanrwst o leiaf diwrnod yr wythnos gyda hyblygrwydd i weithio o adref.
4.3 Oriau gwaith arferol y swyddfa yw 9.00am – 5.00pm (21 awr yr wythnos), ond oherwydd natur y swydd disgwylir i’r sawl a benodir weithio’n aml gyda’r hwyr ac ar benwythnosau. Cynigir amser in lieu yn lle hynny drwy gytundeb â’r Rheolwr linell.
4.4 Cynigir 24 diwrnod (pro rata) o wyliau yn ystod y flwyddyn yn ychwanegol at wyliau statudol – bydd hyn yn codi i 29 diwrnod ar ôl pum mlynedd o wasanaeth.
4.5 Telir cyflog ar y raddfa – 37 awr @ Graddfa 17 (£24,920.00)pro rata
Byddwn yn cyfrannu tuag at Gynllun Pensiwn Menter Iaith Conwy a thelir costau teithio ar 52.2c y filltir.
Ffôn – (01492) 642357
E-bost – meirion@miconwy.cymru