Mae Menter Iaith Conwy yn dilyn gwaith datblygu cymunedol dros y blynyddoedd
diweddar wedi derbyn arian gan Barc Cenedlaethol Eryri i gyflogi swyddog tai wedi ei
arwain gan y gymuned ym mhlwyf Penmachno.
Hwb Penmachno
Ers rhai blynyddoedd mae Menter Iaith Conwy wedi cydweithio i sefydlu Pwyllgor Ardal
sydd wedi esblygu i fod yn sefydliad Hwb y Llan sydd wedi mynd yn ei flaen i drefnu
bwrlwm cymdeithasol yn y pentref a hefyd wedi bod yn llwyddiannus efo cais Loteri i
adnewyddu hen ysgol y pentref fel canolfan gymunedol newydd.
Serch hyn mae yna deimlad fod y gwaith da a wneir gan Hwb y Llan yn cael ei danseilio
gan broblemau economaidd ehangach a’r farchnad dai.


Sefyllfa Dai bresennol
I drio creu datrysiad i hyn mae arian gan Barc Cenedlaethol Eryri i sefydlu grŵp newydd
i berchnogi tai ar ran y gymuned a’u gosod ar rent rhesymol wedi dod i’r Fenter.
Penodwyd Arfon Hughes i weithio 2 ddiwrnod yr wythnos am ddwy flynedd fel Swyddog
tai dan arweiniad y gymuned ym Medi 2024 ac ym Medi 2025 derbyniwyd arian pellach
gan Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU i’w gyflogi 1.5 diwrnod arall tan fis Ionawr 2026.
Mae arolwg o anghenion tai a gafodd ei gomisiynu yn 2021 yn datgan fod 37% o dai yn
ardal Bro Machno yn dai gwyliau neu yn dai gwag. Mae Partneriaeth Tai Penmachno yn
gweld y brif ffordd o gynorthwyo’r cymunedau yma fydd rhoi gallu iddynt sefydlu grŵp
cymunedol a’u cynorthwyo i godi cyfalaf i berchnogi eiddo sydd yn dod ar y farchnad a’i
osod yn lleol neu edrych ar opsiynau o osod rhai tai fel tai gwyliau er mwyn ariannu
datblygiadau pellach a fyddai o fudd i’r gymuned.
Gwelwyd bod Bro Machno’n gymuned gref gyda thraddodiad ardderchog o ofalu am ei
gilydd o’r crud i’r bedd. Mae pwysau’r farchnad dai, fodd bynnag, yn peri pryder o fewn
y gymuned. Mae 446 gofod aelwyd ym Mro Machno, ond efo chwarter y tai y tu hwnt i
afael y genhedlaeth nesaf mae trothwy hyfywedd y gymuned yn prysur agosáu. Mae
yna ras i geisio achub canol y pentref, sydd yn gwagio trwy gymysgedd o dai gweigion,
tai gwyliau ac ail gartrefi. Gyda stoc tai ym Mro Machno’n cael ei werthu i’r cynigydd
uchaf, mae sylfaen bywyd cymunedol a Chymraeg yn yr ardal wledig hon yn gynyddol
ansad ac ansicr.
Mae 51.5% o aelwydydd wedi eu prisio allan o’r farchnad dai yn gyfan gwbl. I’r
aelwydydd hynny sydd yn y chwartel incwm isaf mae’r canran yn uwch eto. Gyda
chanolrif incwm chwartel isaf yn yr ardal yn £14,600 a’r incwm sydd ei angen i fforddio
tŷ pris lefel mynediad yn £30,943 a tydi prynu tŷ ar y farchnad agored ddim yn opsiwn i
lawer. Ychydig iawn o dai i’w rhentu’n breifat sydd ar gael ym Mhenmachno ar hyn o
bryd.
Partneriaeth Tai Penmachno

Mae Cymdeithas Dai Bro Machno Cyfyngedig wedi ei gofrestru ym Medi 2025 fel Cwmni Budd Cymunedol gydag Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) a bydd y Swyddog yn cynnal arolwg o anghenion tai’r gymuned gan adnabod a pharu rhai sydd angen tai a thai sydd ar gael gyda’r bwriad o’u prynu i gartrefu’r rheiny sy’n ymateb.
Bydd gwaith ar adnabod tai i’w prynu, ariannu tai trwy wahanol ddulliau gan gynnwys – benthyciadau, grantiau, a chyfranddaliadau yn rhan o’r dyletswyddau.
Er mwyn gwneud i hyn weithio bydd angen codi canran o’r cyfalaf trwy gynnig cyfranddaliadau ac wedyn edrych ar ddefnyddio benthyciad gan y WCVA neu Lywodraeth Cymru ac eraill.
Mae gan Gymdeithas Dai Gwynedd eiddo yn y pentref, ac mae’r gymuned yn awyddus i
gydweithio efo nhw i drafod y posibiliad o drosglwyddo’r tŷ yn eu meddiant i Gymdeithas
Dai Bro Machno os yw yn cyd-fynd a’u nod ac amcanion.
Credwn y buasai llwyddo i brynu un eiddo yn codi hyder y gymuned ar grŵp newydd i
ddechrau’r broses o adfywio canol y pentref a dechrau edrych ar gynlluniau hir dymor.
Hoffem hefyd ysbrydoli cymunedau eraill i ymgymryd â chynlluniau tebyg.
Am sgwrs pellach ac am fwy o wybodaeth ynghylch hyn oll, cysylltwch ag Arfon Hughes,
Hwylusydd Tai Cymunedol – Penmachno.