Achub unig Dafarn a Chalon Gymdeithasol Penmachno

Rhag 3, 2025 | Uncategorized @cy | 0 comments

Cefnogir yr ymgyrch gan Fenter Iaith Conwy ac mae’n un o brosiectau’r Fenter i hybu’r iaith yn yr ardal.

‘Calon cymdeithasol’: Cymuned yn gobeithio achub unig dafarn Penmachno

Mae ymgyrch ar droed i achub unig dafarn a “chalon gymdeithasol” pentref Penmachno yn Sir Conwy.
Ddydd Sadwrn fe fydd grŵp cymunedol Cynnal Bro Machno yn lansio cynnig cyfranddaliadau i brynu tafarn Yr Eagles, a’i rhedeg fel busnes sy’n eiddo i’r gymuned. 
Ac mae’r trigolion yn gobeithio y bydd hynny’n sicrhau dyfodol i’r dafarn sydd yn “hanfodol i beth yw Penmachno.” 
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Ceri Wyn Morris, Ysgrifennydd Cynnal Bro Machno does yna “nunlle arall” fel Yr Eagles yn y pentref. 
“Mae o’n lle pwysig iawn i’r gymuned, mae’n social hub i’r bobl lleol ac i dwristiaid hefyd. 
“Mae’r perchennog wedi bod eisiau [gwerthu] ers dros flwyddyn rŵan a does ‘na ddim diddordeb gen neb i brynu’r lle. 
“Felly mae’n amser i ni fel cymuned wneud rhywbeth i sicrhau dyfodol y pub. Os ydio’n cau fydd o real problem i ni, i’r cymuned. 
“Da ni ‘di gweld o yn cael ei ‘neud… mae lot o pubs lleol wedi cael y community buy out ‘ma so oddan ni’n meddwl os ydyn nhw’n gallu ‘neud o, ‘dan ni’n gallu ‘neud o. 



Cliciwch y ddolen I ddarllen mwy: https://newyddion.s4c.cymru/article/31667