👇Swydd Newydd gyda’r Fenter👇

Rhag 10, 2025 | Uncategorized @cy | 0 comments

Swyddog Abergele a’r Ardal

(Swydd Ddisgrifiad isod)

Disgrifiad Swydd

Teitl y Swydd: Swyddog Ardal Abergele

1.         Cefndir

1.1      Sefydlwyd Menter Iaith Conwy ym mis Medi 2003 yn dilyn diddymu Menter Iaith Dinbych-Conwy a fu mewn bodolaeth ers 1998. Mae dalgylch y Fenter yn cyfateb â ffiniau’r Cyngor Sir sydd yn ymestyn o’r glannau i berfeddion cefn gwlad.

1.2      Prif nod y Fenter yw hyrwyddo a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn ffiniau Sir Conwy. 

1.3      Mae gweithgareddau’r Fenter yn cynnwys:

Hyrwyddo a chreu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg. 

Ein Swyddogion Maes sydd yn arwain ar y gwaith yma. Yn sylfaenol, maent yn adnabod angen yn lleol lle mae modd i ni gydweithio i ddarparu digwyddiadau sydd yn cynyddu defnydd o’r Gymraeg. Byddwn yn gweithio yn agos efo ysgolion lleol a phartneriaid yn y maes. Mae ein pwyllgorau bro yn hanfodol wrth fapio angen cymunedau am weithgarwch. Yn aml mae pwyllgor bro yn ein hysbysu o gynlluniau sydd efo potensial mwy mewn ardal. Mae’r cynlluniau yma wedyn yn cael eu datblygu yn fwy penodol o dan y pennawd nesaf, sef:

Cryfhau’r Gymraeg drwy gynlluniau economaidd.

Rydym yn ceisio datblygu cynlluniau sydd yn arwain at gynnydd mewn cyflogaeth a gwasanaeth cyfrwng Cymraeg. Mae ein cynllun Cyfieithu Cymunedol, Awyr Agored,  Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg, Bys a Bawd Pawb yn esiamplau o gynlluniau o’r fath.

2.         Atebolrwydd:

2.1      Bydd y Swyddog Ardal Abergele yn atebol o ddydd i ddydd i Prif Weithredwr Menter Iaith Conwy ac i Bwyllgor Rheoli Menter Iaith Conwy. Mi fydden yn gweithio’n agos iawn efo Pwyllgor Ardal Abergele ac yn cysylltu efo’I Cadeirydd yn gyson.

3. Prif Gyfrifoldebau’r Swydd:

  • Cynorthwyo a datblygu Pwyllgorau Ardal Abergele
  • Cychwyn Pwyllgor newydd yn Ardal Llanfair Talhaearn
  • Cynorthwyo Aelwydydd a Chlybiau Ieuenctid ar y cyd efo’r Urdd a Gwasanaeth Ieuenctid y Sir.
  • Cynorthwyo efo Datblygiad Academi Perfformio’r Glannau – sydd yn cael ei gynnal yn Abergele.
  • Sesiynau a digwyddiadau penodol i siaradwyr newydd (dysgwyr) gael defnyddio eu Cymraeg tu allan i dosbarth ar y cyd efo’r sefydliad cenedlaethol  Dysgu Cymraeg.
  • Datblygu Clwbiau Chwareon neu Awyr Agored cyfrwng Cymraeg yn yr ardal (ar y cyd efo’r Urdd a Chwaraeon Cymru)
  • Ymholi i weld pa weithgarwch cymdeithasol Cyfrwng Cymraeg sydd ei angen a wedyn ei ddarparu.
  • Cydweithio efo Mudiad Meithrin a Chymraeg i Plant i ehangu ei gwasanethau yn yr ardal.
  • Byddwn hefyd yn ymgynghori yn bellach efo’n partneriaid trwy y Fforwm Sirol i cynllunio yn fwy strategol yn yr ardal.
  • Gweithio efo busnesau yr ardal i amlygu’r Gymraeg.
  • Gwaith Cyfrwng Cymraeg. Hoffem amlygu cyfleoedd i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwn yn cydweithio ag Ysgolion a Choleg Llandrillo i amlygu cyfleoedd sydd ar gael i weithio drwy’r Gymraeg.  Er enghraift, mae prinder o weithwyr Gofal Plant yn y ddwy Sir. Byddwn yn cydweithio efo Mudiad Meithrin a Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg (a sefydlwyd gan Menter Iaith Conwy) i ddatblygu’r agwedd yma.
  • Cofrestru gwiriad drwy’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd GDG a mynychu hyfforddiant Amddiffyn Plant a Gwaith Ieuenctid.
  • Paratoi asesiadau risg ar gyfer digwyddiadau maes.
  • Hyrwyddo gwaith y menter trwy’r wasg a datblygu ei phresenoldeb ar y  chyfryngau cymdeithasol.
  • Cysylltu efo cynllun Perthyn o fewn Cwmpas (Perthyn – Cwmpas) os oes awydd gan Cymuned i sefydlu Menter Cymunedol cymdeithasol newydd i ddarparu gwasanaethau.
  • Cydweithio efo’r sefydliad ‘Dysgu Cymraeg’ (Croeso | Dysgu Cymraeg) er mwyn hyrwyddo cyfleuoedd i ddysgu Cymraeg a chefnogi teuluoedd di-Gymraeg i gymhathu trwy gweithgarwch cymdeithasol ac hyfforddiant.

Sgiliau a Gwybodaeth Angenrheidiol:

  • Person ymrwymedig i’r Gymraeg ac yn frwdfrydig dros ei hyrwyddo
  • Meddu ar syniadau blaengar
  • Gallu trefnu gwaith heb gyfarwyddyd uniongyrchol
  • Gallu gweithio’n effeithiol fel aelod o dîm neu’n annibynnol
  • Gallu cydweithio ac ysbrydoli eraill
  • Trefnus ac effeithiol, ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da
  • Rhugl ddwyieithog – ar lafar ac ysgrifenedig
  • Meddu ar sgiliau technoleg gwybodaeth da
  • Y gallu i yrru car yn hanfodol
  • Byddai profiad o weithio mewn Menter Iaith yn fanteisiol
  • Byddai profiad o weithio efo Cymynedau yn fantesiol
  • Byddai profiad neu gymhwyster o weithio gyda phlant neu bobl ifanc yn fanteisiol
  • Byddai profiad o weithio yn ddwys gyda teuluoedd a phlant ifanc yn fanteisiol
  • Byddai adnabyddiaeth o’r ardal yn fanteisiol
  • Byddai Gradd neu safon addysg uchel o fantais
  • Byddai profiad neu gymhwyster amddiffyn plant yn fanteisiol.

4.         Amodau a Thelerau:

4.1      Cynigir cytundeb hyd 2 flynedd i gychwyn. Bydd cynaliadwyedd hir-dymor y swydd yn ddibynnol ar sicrhau cyllid digonol ac ar adolygiadau perfformiad boddhaol.

4.2      Lleoliad: Lleolir y swydd yn Abergele a’r ardal ond bydd disgwyl i chi weithio o Swyddfa Menter Iaith Conwy yn Llanrwst o leiaf diwrnod yr wythnos gyda                hyblygrwydd i weithio o adref.

4.3      Oriau gwaith arferol y swyddfa yw 9.00am – 5.00pm (21 awr yr wythnos), ond oherwydd natur y swydd disgwylir i’r sawl a benodir weithio’n aml gyda’r hwyr ac ar benwythnosau. Cynigir amser in lieu yn lle hynny drwy gytundeb â’r Rheolwr linell.

4.4      Cynigir 24 diwrnod (pro rata) o wyliau yn ystod y flwyddyn yn ychwanegol at wyliau statudol – bydd hyn yn codi i 29 diwrnod ar ôl pum mlynedd o wasanaeth.

4.5      Telir cyflog ar y raddfa –  37 awr @ Graddfa 17 (£24,920.00)pro rata

Byddwn yn cyfrannu tuag at Gynllun Pensiwn Menter Iaith Conwy a thelir costau teithio ar 52.2c y filltir.

Ffôn – (01492) 642357

E-bost – meirion@miconwy.cymru