Cynnal Penmachno – Sefydlwyd y cynllun yma wrth i gynllun Hwb Penmachno (Pwyllgor Ardal Menter Iaith Conwy) codi pryderon ynglyn a chynaladwyedd y Gymraeg yn yr ardal oherwydd y sefyllfa dai yn y fro. Datgelwyd fod Ers rhai blynyddoedd mae Menter Iaith Conwy wedi cydweithio i sefydlu Pwyllgor Ardal
sydd wedi esblygu i fod yn sefydliad Hwb y Llan sydd wedi mynd yn ei flaen i drefnu
bwrlwm cymdeithasol yn y pentref a hefyd wedi bod yn llwyddiannus efo cais Loteri i
adnewyddu hen ysgol y pentref fel canolfan gymunedol newydd.
Serch hyn mae yna deimlad fod y gwaith da a wneir gan Hwb y Llan yn cael ei danseilio
gan broblemau economaidd ehangach a’r farchnad dai.
I drio creu datrysiad i hyn mae arian gan Barc Cenedlaethol Eryri i sefydlu grŵp newydd
i berchnogi tai ar ran y gymuned a’u gosod ar rent rhesymol wedi dod i’r Fenter.
Penodwyd Arfon Hughes i weithio 2 ddiwrnod yr wythnos am ddwy flynedd fel Swyddog
tai dan arweiniad y gymuned ym Medi 2024 ac ym Medi 2025 derbyniwyd arian pellach
gan Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU i’w gyflogi 1.5 diwrnod arall tan fis Ionawr 2026.
Mae arolwg o anghenion tai a gafodd ei gomisiynu yn 2021 yn datgan fod 37% o dai yn
ardal Bro Machno yn dai gwyliau neu yn dai gwag. Mae Partneriaeth Tai Penmachno yn
gweld y brif ffordd o gynorthwyo’r cymunedau yma fydd rhoi gallu iddynt sefydlu grŵp
cymunedol a’u cynorthwyo i godi cyfalaf i berchnogi eiddo sydd yn dod ar y farchnad a’i
osod yn lleol neu edrych ar opsiynau o osod rhai tai fel tai gwyliau er mwyn ariannu
datblygiadau pellach a fyddai o fudd i’r gymuned.
Wrth i’r cynllun dai rhedeg daeth yn hysbus fod y dafarn Ty Uchaf/ Yr Eagles ar fin cau gan fod y perchenog methu ei werthu.Trefnwyd cyfarfod cyhoeddus gan Arfon i godi’r mater a phenderfynwyd
ehangu’r cynllun i geisio perchnogi’r dafarn ar gyfer y gymuned hefyd. Mae’r gweddill yn hanes; gweler https://cynnalbromachno.cymru/cy/