Yn anffodus, bu rhaid sefydlu grŵp cymunedol gan nad oedd diddordeb masnachol mewn prynu’r busnes wrth i’r perchennog presennol ymddeol. Cysylltodd unigolion lleol a’r Cyngor Llyfrau â Menter Iaith Conwy gan ofyn iddynt ymyrryd, gan fod gan y Fenter brofiad blaenorol o ddatblygu mentrau cymdeithasol megis Cyfieithu Cymunedol a Derwen Deg.
Pan ddaeth yn amlwg nad oedd neb am brynu’r ased, trefnwyd dau gyfarfod cyhoeddus yn y dref, a fynychwyd gan 40 o bobl. Sefydlwyd grŵp llywio i archwilio opsiynau i feddiannu’r ased a ffurfio cwmni cymunedol. Derbyniwyd cefnogaeth unfrydol. Arweiniodd Menter Iaith Conwy’r grŵp trwy’r broses gyfreithiol o ffurfio cwmni budd cymunedol i allu codi cyfranddaliadau.
Mae aelodau o Fwrdd MI Conwy a Llanast Llanrwst yn eistedd ar y bwrdd, ynghyd â sawl aelod newydd.
Gwnaed cais i Berthyn 2, gan feithrin cymhwysedd pellach i ddatblygu’r cynllun. Hyd yma, maent wedi codi £150,000 mewn cyfranddaliadau a chyflwyno ceisiadau i CFP am £290,00 sydd wedi bod yn llwyddiannus. Hefyd fu cais am £40,000 Cronfa Clocaenog yn llwyddiannus. Mae’r Busnes wedi trosglwyddo erbyn hyn. Mae yna waith altro yn cael ei neud yn y Siop ac mae siop fach dros dro wedi sefydlu yn ein Swyddfa.
Credwn fasa colli’r siop wedi bod yn ergyd i’r Gymraeg yn Sir Conwy. Mae’r adnoddau sydd yno yn cyfrannu at gynyddu defnydd o’r Gymraeg. Mae hefyd yn gyflogwr Cymraeg pwysig yn yr ardal. Mae 2 fflat yn rhan o’r pryniant fydd hefyd yn caniatáu gosod rhent fforddiadwy i Siaradwyr Cymraeg yn ddelfrydol.
Dolen i safle we – https://bysabawdpawb.cymru/