Cefnogir yr ymgyrch gan Fenter Iaith Conwy ac mae’n un o brosiectau’r Fenter i hybu’r iaith yn yr ardal.
‘Calon cymdeithasol’: Cymuned yn gobeithio achub unig dafarn Penmachno

Ddydd Sadwrn fe fydd grŵp cymunedol Cynnal Bro Machno yn lansio cynnig cyfranddaliadau i brynu tafarn Yr Eagles, a’i rhedeg fel busnes sy’n eiddo i’r gymuned.
Ac mae’r trigolion yn gobeithio y bydd hynny’n sicrhau dyfodol i’r dafarn sydd yn “hanfodol i beth yw Penmachno.”
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Ceri Wyn Morris, Ysgrifennydd Cynnal Bro Machno does yna “nunlle arall” fel Yr Eagles yn y pentref.
“Mae o’n lle pwysig iawn i’r gymuned, mae’n social hub i’r bobl lleol ac i dwristiaid hefyd.
“Mae’r perchennog wedi bod eisiau [gwerthu] ers dros flwyddyn rŵan a does ‘na ddim diddordeb gen neb i brynu’r lle.
“Felly mae’n amser i ni fel cymuned wneud rhywbeth i sicrhau dyfodol y pub. Os ydio’n cau fydd o real problem i ni, i’r cymuned.
“Da ni ‘di gweld o yn cael ei ‘neud… mae lot o pubs lleol wedi cael y community buy out ‘ma so oddan ni’n meddwl os ydyn nhw’n gallu ‘neud o, ‘dan ni’n gallu ‘neud o.
Cliciwch y ddolen I ddarllen mwy: https://newyddion.s4c.cymru/article/31667