Dewch i adnabod aelod staff mwyaf newydd y Fenter, sef Glesni Lloyd:
Helo! Glesni ydw i a fi ydi’r aelod newydd i dîm gwych Menter Iaith Conwy. Swyddog Gwledig a Chyllid newydd y fenter ydw i, a dwi’n edrych ymlaen yn fawr iawn i gael dod allan i’r gymuned i’ch cyfarfod chi gyd yn fuan, pan fydd hi’n saff i wneud hynny wrth gwrs.
Dwi’n byw mewn ardal fechan o’r enw Nant -y-Rhiw ger Llanrwst, felly braf ydi cael y cyfle i weithio o fewn fy milltir sgwâr a dod i adnabod llawer iawn mwy o bobl y Sir. Fe raddiais o brifysgol Aberystwyth nol yn 2017 mewn Cymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu, ac wedyn y llynedd bues i’n ddigon ffodus i gael mynd i drafeilio am rhai misoedd a gweld dipyn ar y byd. Rydw i bellach yn mwynhau bod adref ac yn edrych ymlaen at sialens newydd, ac i weithio fel rhan o dîm Menter Iaith Conwy.
Does dim yn well gen i na chymdeithasu a chyfarfod pobl newydd, felly os y gwelwch chi fi o gwmpas y Sir, cofiwch ddod atai i ddweud helo.
Edrych ymlaen at eich gweld chi’n fuan.
Hwyl am y tro,
Glesni
Cofiwch fod modd i chi gysylltu gyda Glesni am unrhyw syniadau ar gyfer gweithio yn y Gonwy wledig: glesni@miconwy.cymru