Mae Haf 2021 wedi bod yn llawn bwrlwm yma ym Menter Iaith Conwy gan ein bod wedi gallu cynnig gweithareddau awyr agored, Antur Conwy, yn rhad ac am ddim i bobl ifanc o hyd a lled y sir.
Gyda diolch i Gyngor Conwy am ariannu’r gweithgareddau trwy eu cynllun grant Haf o Hwyl, rydym wedi llwyddo i gynnig profiadau bythgofiadwy i bron i 50 o bobl ifanc yn ystod wythnos olaf gwyliau’r haf.
Dywedodd rhai rhieni; “Diolch am drefnu gymaint o weithgareddau. Plant wedi mwynhau y dringo yn fawr iawn. Diolch yn fawr iawn” a “Jyst nodyn i ddiolch yn fawr am y cyfle i padlfyrddio a dringo – da ni fel teulu yn gwerthfawrogi hyn. Mae’r plant wedi joio yn ofnadwy”
Diolch hefyd i Bedwyr o Pellennig a Stephen o Anelu Aim Higher am arwain y sesiynau.
Dyma flas i chi o’r gweithgareddau trwy luniau.