Clwb Busnes Hiraethog i barhau dan nawdd Cronfa Ffarm Wynt Brenig
Mae Clwb Busnes Hiraethog wedi bod yn llwyddiannus mewn denu grant gan gronfa Budd Cymunedol Brenig Wind Ltd. Cafwyd cyfle i fusnesau ardal Hiraethog ddod at ei gilydd am y tro cyntaf ym mis Ionawr ar gyfer noson anffurfiol Clwb Busnes Hiraethog ym Mhentrefoelas. Nod y noson oedd creu cyfle i fusnesau’r ardal gymdeithasu a gwneud cysylltiadau o‘r newydd a chael sgwrs efo hwn a’r llall dros baned. Ffocws y cyfarfod cyntaf oedd i wahodd rai o bobol busnes mwyaf llwyddiannus Hiraethog i rannu eu profiadau o redeg busnes.
Mae rhedeg busnes yng nghefn gwlad yn gallu bod yn unig iawn ar adegau felly roedd y noson yn gyfle i ddod ynghyd. Gan fod y noson wedi bod yn hynod llwyddiannus penderfynwyd buasai’n grêt cario’r Clwb yn ei flaen a ffurfio rhwydwaith fusnes pwysig i fro Hiraethog. Y bwriad i’w gwahodd siaradwyr gwadd i ddŵad i’r clwb er mwyn trafod pynciau sydd yn bwysig iawn wrth redeg busnes.
Cafwyd y syniad am gynnal un noson o Glwb Busnes Hiraethog gan Gynghorydd Garffild Lloyd Lewis ac Eirian Pierce Jones, Cydlynydd Strategaeth Datblygu Hiraethog ar y pryd. Ar ddiwedd cyfarfod cyntaf o Glwb Busnes Hiraethog fe ofynnwyd i’r 40+ o fynychwyr os oeddent am weld parhad o’r Clwb ac fe gytunwyd yn unfrydol y dylai parhau â’r cyfarfodydd gan nad oes clwb o’r fath yn yr ardal ar hyn o bryd. Mae Nia Morris, Swyddog Cymraeg Byd Busnes Sir Conwy a Sir Ddinbych wedi cael llwyddiant gyda Grant Budd Cymunedol Brenig Wind Lt i gario Clwb Busnes Hiraethog yn ei flaen. Mi fydd y grant yn ein galluogi i gynnal clwb busnes a chael siaradwyr gwadd i drafod nifer o bynciau dros gyfnod o flwyddyn. Rhai pynciau rydym yn gobeithio trafod yn y Clwb yw cysylltedd, iechyd meddwl, amgylchedd, grantiau a llawer mwy.
Rydym yn edrych ymlaen at gynnal yr ail noson o Glwb Busnes Hiraethog yn y dyfodol unwaith bydd y sefyllfa gyda COVID-19 yn ein galluogi. Os hoffech gael eich rhoi ar y rhestr bostio cysylltwch gyda nia.morris@cymraegbusnes.cymru neu dilynwch ni ar facebook Clwb Busnes Hiraethog Business Club.