Cwrs Mynydda Alpaidd – Chamonix 2019
Ym mis Mai, trwy gefnogaeth Cronfa Partneriaeth Eryri, sy’n cael ei weinyddu gan Menter Iaith Conwy, aeth hyfforddwyr awyr agored o Wasanaeth Awyr Agored yr Urdd a Menter Iaith Conwy ar gwrs mynydd Alpaidd, i Chamonix yn Ffrainc.
Mae Menter Iaith Conwy wedi gweithredu cynllun hyfforddi hyfforddwyr yn y maes awyr agored ers 10 mlynedd bellach. Cynllun a gychwynwyd er mwyn mynd i’r afael a diffyg siaradwyr Cymraeg yn gweithio yn y maes yn ol astudiaeth yn 2003, erbyn hyn oherwydd gwaith Menter Iaith Conwy, yr Urdd a’r Bartneriaeth Awyr Agored i enwi ond rhai, mae’r niferoedd bellach yn llawer iachach. Er hynny mae angen parhau i hyfforddi Cymry i gymhwyso i lefelau uwch yn y diwydiant.
Rhan o’r nod hyn oedd y cwrs diweddar hwn yn Chamonix er mwy uwchsgilio 3 hyfforddwr sydd yn gweithio yn gyfangwbwl trwy’r iaith Gymraeg ar draws Cymru gyfan, ynghyd a gweithio yn Ewrop gyda grwpiau Cymraeg ei hiaith. Mae Menter Iaith trwy’r Clwb Eira wedi bod yn trefnu teithiau blynyddol i Ffrainc ers degawd bellach, tra fod gan yr Urdd ganolfan gymharol newydd yn Hwngari.
Ar ol dysgu am ddiogelwch llithrad eira, sgiliau teithio ar sgis, sgiliau rhaff ar y mynyddoedd a croesi rhewlifoedd yn ddiogel, mae’r 3 yn mynd i rannu eu profiadau a’r hyn maent wedi dysgu i hyfforddwyr eraill o fewn yr Urdd er mwyn cynyddu cymhwysedd a gwybodaeth hyfforddwyr cyfrwng Cymraeg yma yng Nghymru.
Oes oes gennych chi ddiddordeb cymhwyso yn uwch yn y maes awyr agored, mae gan Menter Iaith Conwy trwy gynllun Cronfa Partneriaeth Eryri grant o hyd at 75% i’ch cynorthwyo. Os am fwy o wybodaeth ffoniwch 01492 642357 neu ebsotiwch bedwyr@miconwy.org