Cymuned yn gobeithio perchnogi siop lyfrau Gymraeg yn Llanrwst

Chwe 4, 2025 | Uncategorized @cy | 0 comments

Cymuned yn gobeithio perchnogi siop lyfrau Gymraeg yn Llanrwst

Mae grŵp cymunedol yn gobeithio perchnogi siop lyfrau Gymraeg yn Sir Conwy er mwyn ‘cynnal a chefnogi’r iaith’ yn yr ardal.

Mae Siop Bys a Bawd wedi bod yn rhan o gymuned Llanrwst ers 50 mlynedd, a bellach, dyma’r unig siop lyfrau Gymraeg yn y sir gyfan.

Mae adeilad y siop, sydd hefyd yn cynnwys dwy fflat, wedi bod ar werth ers sawl blwyddyn bellach, ond nid yw wedi’i werthu ar y farchnad rydd.

Dywedodd Meirion Davies, o Fenter Iaith Conwy:

“Be sydd di ddigwydd ydi bod y siop ar werth ac mae’r perchennog presennol isho ymddeol, ond does ‘na ddim diddordeb ar y farchnad rydd.

“Mae ‘na dipyn o bobl leol, yn Nyffryn Conwy, wedi dangos pryder, achos yn amlwg os mi fysa’r siop yn cau, mi fysa fo’n ergyd i’r Gymraeg yn y dyffryn.”

Am erthygl lawn Newyddion S4C ac i fwrw golwg ar y fideo, clicliwch yma.

Os hoffech wybod mwy am Bys a Bawd Pawb, ewch draw i’w tudalen Facebook neu ewch draw i’w gwefan.