
Dydd Iau 26 Mehefin, bydd Tŷ Aberconwy, yn nhref gaerog hanesyddol Conwy, yn dathlu 10 mlynedd o Ystafelloedd Fyw Cyhoeddus ‘Camerados’.
Beth yw Ystafell Fyw Gyhoeddus?
Maen nhw’n ofodau croesawgar a hamddenol lle gall pobl ddod ynghyd yn anffurfiol i “ofalu am ei gilydd” heb unrhyw ddisgwyliad o ran cyngor, therapïau na chwnsela.
Cafodd mudiad Camerados ei sefydlu yn 2015. Ers hynny, mae dros 460 o Ystafelloedd Fyw Cyhoeddus wedi’u creu — gyda bron i 300 ohonynt yn agor yn rheolaidd i groesawu pawb sydd am alw heibio. Mae’r un clud ar ail lawr Tŷ Aberconwy yn rhedeg ers rhyw ddwy flynedd.
Agor Drysau Tŷ Aberconwy
Mae Menter Iaith Conwy ar hyn o bryd yn cydweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i agor drysau Tŷ Aberconwy i’r cyhoedd yn amlach. Wedi’u hysbrydoli gan egwyddorion Camerados, maen nhw wedi trefnu “Sesiwn Siarad” wythnosol bob dydd Iau rhwng 12:30 a 1:30 i gefnogi dysgwyr Cymraeg mewn amgylchedd anffurfiol a chyfeillgar.
Dowch draw i ymarfer eich Cymraeg neu i ddarganfod mwy am y safle hanesyddol yma, a rhannu unrhyw syniadau sydd gennych ar gyfer sut i’w ddefnyddio yn y dyfodol.
Bydd cerddoriaeth fyw a chacen ben-blwydd hefyd i nodi’r achlysur!
Dywedodd dysgwr Cymraeg o Gonwy, Claire Morton:
“Mae’n wych cael cyfle i ymarfer fy Nghymraeg mewn lle mor anffurfiol — mae’r Ystafell Fyw Gyhoeddus mor gynnes a hamddenol.”
Ychwanegodd Caren Jones, hefyd o Gonwy:
“Mae’n dda iawn yma — diolch am y cyfle i ymarfer a sgwrsio mewn lle mor ddiddorol.
Mae Tŷ Aberconwy ar agor o ddydd Iau i ddydd Sadwrn, rhwng 10:00 a 4:00.
Mae’r Ystafell Fyw Gyhoeddus ar yr ail lawr, sy’n hygyrch trwy’r grisiau.
Eisiau mwy o wybodaeth, cysylltwch â Meirion.
