Denu Eisteddfodwyr i ganol y dref
Dewch i’r Dref i fwynhau awyrgylch bythgofiadwy a chefnogi busnesau lleol yr un pryd.
Dyna yw neges tîm o weithwyr a gwirfoddolwyr brwdfrydig sy’n gweithio o ganolfan ddiwylliannol newydd ar sgwâr Llanrwst.
Mae hen adeilad trawiadol banc HSBC yn y dref bellach yn gartref i Fenter Iaith Conwy, sydd wedi cychwyn ar ran gyntaf y gwaith o ail-ddatblygu ac addasu’r adeilad.
Ers iddynt symud eu swyddfeydd yno ddechrau’r flwyddyn, mae paratoi ar gyfer yr Eisteddfod wedi bod yn rhan ganolog o’u gwaith.
Un o’u prif amcanion yw sicrhau bod ymwelwyr â’r Eisteddfod yn cael profiad o’r dref a’r ardal, a bod canol y dref yn rhan o gyffro’r Ŵyl.
Y bwriad yw cau’r sgwâr i gerbydau, fel y bydd yn lle braf i gerdded ac oedi am sgwrs a phaned yno, ac bydd cerddoriaeth fyw o gaffi Contessa ar y gornel.
Bydd rhaglen lawn o gigs bob nos yng ngwesty’r Eryrod hefyd wedi eu trefnu gan Gymdeithas yr iaith, gyda phabell anferth yn cael ei gosod o’i flaen. Mae gardd y gwesty mewn lleoliad hyfryd uwchben yr afon gyda golygfa wych o’r bont a chaffi hynafol Tu Hwnt i’r Bont gerllaw.
Meddai Meirion Davies, prif swyddog Menter Iaith Conwy.;
“Rydan ni’n ffyddiog y bydd hi’n wythnos fythgofiadwy yn y dref. Rydan ni’n ffodus bod y meysydd carafannau i gyd o fewn pellter cerdded i’r dref, felly peidiwch â cholli’r cyfle i fwynhau’r awyrgylch. Mae busnesau lleol wedi gweithio’n galed i gefnogi’r Eisteddfod a’n gobaith ni ydi y byddan nhwythau hefyd yn elwa ar gael yr Eisteddfod yma.”
Bywyd newydd mewn hen adeilad
Mae hen adeilad y banc wedi bod yn fwrlwm o weithgarwch ers iddo ailagor fel canolfan i hybu’r iaith a’r diwylliant Cymraeg. Roedd llwyddo i brynu’r adeilad yn gam pwysig ymlaen i Fenter Iaith Conwy.
Esbonia Meirion Davies;
“Mae’n ganolfan fwy addas inni allu ehangu’n gwaith, a bydd bod yn berchen ein heidio ein hunain yn ein gwneud yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir. Er inni fod yn ffodus o gael cymorth o Gronfa Datblygu Gwledig yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru i brynu’r adeilad, mi fydd angen mwy o gyllid arnom i addasu ac ail-ddatblygu’r adeilad cyfan.”
“Mae neuadd hynod drawiadol ar lawr uchaf yr adeilad, ac mi fyddwn ni’n ymgynghori’n drylwyr efo pobl leol o ran y defnydd y bydden nhw’n hoffi’i weld yn cael ei wneud ohoni. Mi fydd angen tipyn o waith arni i’w gwneud yn addas i’r cyhoedd a rhaid inni gymryd pethau un cam ar y tro. Yn y cyfamser, mae croeso i bawb alw heibio yn ein swyddfa yn ystod wythnos yr Eisteddfod.”
Mae’r adeilad hefyd yn bencadlys cenedlaethol i Fentrau Iaith Cymru, corff sy’n hyrwyddo cydweithio rhwng y gwahanol fentrau iaith ledled Cymru, ac yn gartref i gwmni cyfieithu sydd wedi sefydlu gan Menter Iaith Conwy.
Rhwng pawb, mae tua 15 yn gweithio o’r adeilad, gan roi hwb economaidd sylweddol i ganol y dref.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch efo Meirion Davies (01492) 642357 meirion@miconwy.cymru