Ar hyn o bryd mae Menter Iaith Conwy yn gweithredu partneriaeth efo Palasau Hwyl a’r
Ymddiriedolaeth Genedlaethol er mwyn dod a bywyd Newydd i Tŷ Aberconwy. Mae
Palasau Hwyl yn cefnogi pobl lleol i gyd-greu eu digwyddiadau diwylliannol a chymunedol eu hunain ar draws Prydain ac yn fyd-eang, gan rannu a dathlu’r athrylith sydd gan bawb.
Maent yn cefnogi adeiladau, lleoliadau, sefydliadau, grwpiau ac unigolion i greu eu
digwyddiadau cymunedol eu hunain, gan daflu goleuni ar sgiliau, angerdd a
brwdfrydedd pob lleoliad a chymuned. Mae Palasau Hwyl yn ymwneud â chyfranogiad
gweithredol ac ymarferol i bobl o bob oedran a phob lefel o brofiad a chymryd rhan.
Mi fydd Rachel Attfield o Palasau Hwyl yn cynnig gweithdy dwy awr ar Ddydd Mercher, 23ain o
Orffennaf 2.00 tan 4.00pm er mwyn cyflwyno eu hunain yn iawn a thrafod posibiliadau gyda partneriad
ar sut i fynd ati i drefnu dyddiau Palasau Hwyl efo’r gymuned lleol.
Byddwn wedyn yn anelu i drefnu digwyddiadau Palasau Hwyl yn lleol yn ystod Mis Hydref
yma yn Nhŷ Aberconwy ac lleoliadau eraill hefyd. Buasem wrth ein boddau pe tai modd i
chi ymuno efo ni.
O’n brofiad efo Palasau Hwyl credwn buasai diddordeb yn ei gwaith ac fod modd iddo fod o gymorth i chi a’ch sefydliad.
Mae modd i chi gofrestru trwy’r ddolen yma neu chysylltwch â Meirion Davies / 01492 642 457.
