Gwersi Cymraeg

Awst 29, 2019 | Newyddion | 0 comments

Mae mis Medi’n prysur agosáu, sy’n golygu y bydd llwythi o gyrsiau newydd Dysgu Cymraeg yn cychwyn hefyd ar hyd a lled y wlad.

Os oes gennych ddiddordeb mewn rhoi cynnig ar ddysgu Cymraeg eleni – mae amryw o ddosbarthiadau yn y lleoliadau canlynol ar hyd sir Conwy:

– Dolwyddelan
– Llanfairfechan
– Conwy
– Llandudno
– Cyffordd Llandudno
– Llandrillo-yn-Rhos
– Bae Colwyn
– Abergele
– Llanrwst
– Betws y Coed
– Cerrigydrudion

Eleni, bydd Dysgu Cymraeg yn defnyddio ein swyddfa ni fel un o leoliadau dysgu yn Llanrwst, sydd yn newyddion hynod gyffrous. Bydd y dosbarth ymlaen bob dydd Iau, rhwng 9:30 – 15:00, ac yn cychwyn ar y 26ain o Fedi. Cwrs i ddechreuwyr pur ydi hwn, felly os ydych chi’n adnabod unrhyw un sydd â diddordeb mentro i ddysgu’r Gymraeg, lledaenwch y neges.

Mae manylion pellach am ddosbarthiadau dysgu Cymraeg ar hyd Gogledd Orllewin Cymru ar gael yma neu am fanylion pellach am gyrsiau sir Conwy, cysylltwch â Llinos ar llj18fpb@bangor.ac.uk neu 01492 546 666 estyniad 1545.

 Cyfle gwych i gwpwl neu deulu rentu tŷ ym Mhenmachno am bris rhesymol. Manylion cyswllt ar yr hysbyseb.