Hwyl yn y Cartref

Mai 5, 2020 | Newyddion | 0 comments

Mae’r wythnosau wedi hedfan ers i’r Llywodraeth gyhoeddi ein bod i aros adref tan y bydd rhybydd pellach. Roedd y syniad o gael gweithio o adref, a chael treulio mwy o amser gyda’r teulu yn deimlad hyfryd ar y dechrau. Roedd yn teimlo fel bod gennym fwy o amser i wneud pethau newydd, fel mwy o ymarfer corff, dechrau hobi newydd, neu gynnal noson gwis ddigidol bob noson o’r wythnos! Ond oes na rywun arall yn teimlo fel ni, ei bod hi’n anoddach meddwl am bethau i’w gwneud o ddydd i ddydd?

Rydym wedi bod yn ffodus iawn o’r tywydd hyd yma, ac felly mae mae hynny wedi bod yn help wrth ddiddanu’r plant. Ond, wrth i’r tywydd droi yr wythnos hon a’r plant yn sownd dan do – efallai fod angen i ni hel ychydig mwy o syniadau i ddiddanu’r plant, yn enwedig gyda nifer o rieni yn parhau i weithio hefyd.

Dyma gasgliad bychan o fideos rydym wedi eu creu yn ystod y cyfnod er mwyn dangos ychydig o bethau syml y gallwch eu gwneud gyda’r plant yn ystod y cyfnod – a’r rhan fwyaf o ddeunyddiau ar gael yn eich cartref (a’r bin ailgylchu!). Gobeithio y cewch ychydig ddefnydd, a gorau oll, ychydig fwynhad wrth greu.

Cofiwch anfon unrhyw luniau o’ch crefftau draw at post@miconwy.cymru
Cymerwch olwg ar ein fideos newydd a llawer mwy ar ein tudalennau Facebook, Instagram ac ein sianel Youtube

Daliwch ati i fod yn hapus a chryf, mi ddown drwyddi yn y diwedd!

Syniadau:

 Cyfle gwych i gwpwl neu deulu rentu tŷ ym Mhenmachno am bris rhesymol. Manylion cyswllt ar yr hysbyseb.