Swyddog Maes Ardal Arfordirol a Chymorth Gweinyddol (Cyfnod Mamolaeth)

Mai 6, 2024 | Uncategorized @cy | 0 comments

Swyddog Maes Ardal Arfordirol a Chymorth Gweinyddol (Cyfnod Mamolaeth)

Hoffech chi gyfle i weithio gyda sefydliad sy’n hyrwyddo a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg yn Sir Conwy? 

Yn gyfrifol am arwain gwaith maes Menter Iaith Conwy yn ardal arfodirol y Sir. Amcan y gwaith yw creu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol. Bydd hyn yn cynnwys  gweithio efo plant a phobl ifanc a phwyllgorau ardal o fewn y diriogaeth. Mae hefyd rhywfaint o ddyletswyddau gweinyddol megis cadw cofnodion, materion diogelu data, cofnodi oriau staff ayyb.

Cyflog: £21,575 i £24,054 pro rata yn ddibynnol ar brofiad.

Oriau: Hyd at 30 awr yr wythnos (i’w drafod efo’r ymgeisydd llwyddiannus)

Lleoliad: Swyddfa Menter Iaith Conwy, Llanrwst

Cais drwy lythyr a CV.

Am fwy o fanylion am y swydd neu i wneud cais cysylltwch â: meirion@miconwy.cymru

Dogfennau:

Disgrifiad Swydd