Menter gymunedol yn bwriadu prynu cangen HSBC

Medi 21, 2017 | Newyddion | 0 comments

Mae menter gymunedol blaenllaw yn Llanrwst yn gobeithio prynu cangen HSBC y dref a gaeodd ei ddrysau yn ddiweddar. Y bwriad ydy gofalu fod yr adeilad hanesyddol yn ased er budd y gymuned gyfan.

Bu i Fenter Iaith Conwy ddatgan eu cynlluniau i agor canolfan wybodaeth a man arddangosfa barhaol yn ogystal â datblygu canolfan deori ar gyfer busnesau newydd. Mae gan y fenter hefyd uchelgeisiau tymor hirach i adfer y llawr uchaf, caiff ei ddisgrifio fel un o drysorau cudd y dref, fel bod modd gwneud defnydd ohono unwaith eto.
Maen nhw ar hyn o bryd mewn trafodaeth gydag asiantaethau gwerthu ac yn gobeithio darbwyllo HSBC o fanteision eu cynigion.

“Mae cau cangen HSBC yn golled ddirfawr i’r dref a bu i nifer sylweddol ohonom ymgyrchu i’w achub,” dywedodd Prif Weithredwr Menter Iaith Conwy, Meirion Davies.
“Mae’r gangen wedi cau erbyn hyn, fodd bynnag mae’n hanfodol ein bod yn gofalu ein bod yn gwneud defnydd unwaith eto o’r adeilad hynod fawreddog ar y sgwâr a bod y dref gyfan yn elwa ohono.

“Ein bwriad ydy symud ein swyddfeydd yno, ond mae hefyd digonedd o le ar y llawr isaf i agor canolfan wybodaeth a threftadaeth i drigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Buasai modd mynd gam ymhellach gyda hyn drwy gynnig arddangosfeydd o luniau hanesyddol o’r dref a’i phobl, fel enghraifft.

“Yn y tymor hirach, mae’r neuadd eang ar y llawr uchaf yn un o drysorau cudd Llanrwst a byddwn yn ymroi i’w adfer er budd y gymuned.”

“Rydym yn gobeithio y bydd trigolion yr ardal, busnesau lleol a chynrychiolwyr etholedig ar bob lefel y llywodraeth i gyd yn cefnogi’n cynlluniau,” dywedodd Cadeirydd Menter Iaith Conwy, Huw Prys.

“Mae adeilad mor hanesyddol yn rhan annatod o hanes y dref ac mae ond yn deg fod yr holl gymuned yn elwa ohono yn hytrach na’i fod yn mynd i feddiant datblygwr preifat”

“Os ydy ein cynnig yn llwyddiannus, rydym yn hyderus y bydd ein cynlluniau yn help i adfywio canolbwynt yng nghanol y dref.”

Rydym wedi cyflwyno cynnig ffurfiol i’r Banc yn enw Partneriaeth sydd yn cael ei arwain gan y Fenter ond sydd yn cynnwys y Cyngor Tref ac sefydliadau celfeddydol lleol megis Yr Academi ac grwpiau celfeddydol eraill sydd wedi dod at eu gilydd efo ni i ffurfuio Banc Dywilliant. Rydym yn gobeithio cael clywed gan y Banc os yw ein cais wedi bod yn llwyddianus yn fuan.

 Cyfle gwych i gwpwl neu deulu rentu tŷ ym Mhenmachno am bris rhesymol. Manylion cyswllt ar yr hysbyseb.