Menter Iaith Conwy yn torri Biliau Trydan ac Allbynnau Carbon

Maw 10, 2020 | Newyddion | 0 comments

Ychydig dros flwyddyn yn ôl prynodd Menter Iaith Conwy Hen Fanc HSBC ar y sgwâr yn Llanrwst. Erbyn heddiw mae’r Hen Fanc yn gartref i Menter Iaith Conwy, Mentrau Iaith Cymru a Cyfieithu Cymunedol, cwmni cyfieithu a sefydlodd Menter Iaith Conwy i ddarparu gwasanaeth cyfieithu yn lleol. Mae cyfanswm o 15 yn gweithio yn yr Hen Fanc, sydd yn golygu defnydd uchel o drydan.

Y cam diweddaraf o ail-ddatblygu y Banc fydd i osod system PV 4kW ar y to. Bydd hyn yn arbed arian ar gyfer y fenter gymdeithasol yn ogystal â lleihau eu hôl troed carbon.

Cyllidwyd y paneli trwy gymysgedd o grantiau gan gynnwys RCDF (Cronfa Datblygu Cyfalaf Gwledig) gan Lywodraeth Cymru, ac Ymddiriedolaeth Naturesave. Mae Naturesave Trust yn cael ei ariannu gan weithgareddau Naturesave Insurance, cwmni yswiriant moesegol blaengar ym Mhrydain sy’n cynnig yswiriant i unigolion, busnesau, elusennau a grwpiau cymunedol.

Gan fod y swyddfa’n cael ei defnyddio yn bennaf yn ystod y dydd, bydd modd manteisio drwy ddefnyddio’r trydan sy’n cael ei gynhyrchu yn uniongyrchol.
Meddai Cyfarwyddwr Datblygu Menter Iaith Conwy, Meirion Davies;

“Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth y Grantiau gan y bydd yn arbed arian inni er mwyn gallu ei ail-fuddsoddi mewn prosiectau cymunedol yn ogystal ag ymateb i her newid yn yr hinsawdd”.

 Cyfle gwych i gwpwl neu deulu rentu tŷ ym Mhenmachno am bris rhesymol. Manylion cyswllt ar yr hysbyseb.