
Bydd bwrlwm yn Nhŷ Aberconwy, yn nhref gaerog Conwy, dros y chwe mis nesaf. Y bwriad yw cynyddu defnydd yr adeilad arbennig hwn gan y gymuned leol. Mae siop lyfrau ail-law eisoes ar y llawr isaf.
Adeiladwyd Tŷ Aberconwy yn yr 14eg ganrif, a dyma’r unig dŷ masnachwr o’r canol oesoedd sydd wedi goroesi yng Nghonwy. Yn ôl y sôn, dyma’r adeilad seciwlar hynaf yng Nghymru. Mae’n cynnwys dau lawr isaf o garreg sy’n cynnal llawr arall ffrâm bren sy’n ymwthio allan dros y stryd.
Ychydig sy’n hysbys am hanes cynnar y tŷ ond daeth dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1934. Roedd wedi ei brynu cyn hynny gan Alexander Campbell Blair oedd wedi ei achub rhag cael ei bacio a’i gludo i’r Unol Daleithiau.
Mi fydd hwn yn bartneriaeth rhwng yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Fun Palaces Cymru a Menter Iaith Conwy. Mae’n brosiect sydd wedi ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Bydd dau aelod o dîm Menter Iaith Conwy yn gweithio ar y cynllun sef Meirion Davies ac Eryl Jones. Bydd hyn yn adeiladu ar waith sydd eisoes wedi wneud fel rhan o’r bartneriaeth rhwng yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Fun Palaces. Bydd hefyd yn adeiladu ar waith cymunedol mae’r Fenter wedi bod yn ei wneud efo’i chriw gwirfoddolwyr lleol sef Pwyllgor Aberconwy.
“Dwi’n edrych ymlaen at weithio mwy efo criw sydd wedi bod mor llwyddiannus yn trefnu digwyddiadau Cymraeg yn y Dref. Ond fydd yn gyfle i ddod i adnabod y Gymuned ehangach hefyd.”
Eryl Jones, Menter Iaith Conwy
“Rydym yn edrych ymlaen at weithio ar y cyd gyda Menter Iaith Conwy a Palasau Hwyl Cymru er mwyn datblygu’r cyfleoedd i ddefnyddio Tŷ Aberconwy gyda’r gymuned leol ac i ddod a bwrlwm newydd i’r lleoliad arbennig hwn yng nghanol tref Conwy.”
Ceri Williams o Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru
Mae Palasau Hwyl Cymru yn cefnogi pobl leol i gyd-greu eu digwyddiadau diwylliannol a chymunedol eu hunain ledled y DU ac yn rhyngwladol, gan rannu a dathlu’r creadigrwydd a’r doniau sydd gan bawb.
“Felly, rydym yn annog pobl i ddod at ei gilydd yma yn Nhŷ Aberconwy i rannu eu sgiliau, eu diddordebau, a’r hyn maen nhw’n angerddol drosto,” meddai Meirion Davies.
Diwrnodau Agored
Mae croeso i’r cyhoedd gysylltu i drafod cydweithredu pellach ac i rannu syniadau am ddefnydd yr adeilad. Os hoffech sgwrs wyneb yn wyneb, byddant yn yr adeilad bob dydd Iau i ddatblygu’r cynllun ymhellach, ac mae croeso i chi alw heibio rhwng 10:00 AM a 4:00 PM.
Bydd dau ddiwrnod agored yn Nhŷ Aberconwy, sef ar Ddydd Sadwrn y 24ain a Dydd Iau y 29ain o Fai rhwng 10:00 AM a 4:00 PM, gan roi cyfle i’r cyhoedd ymweld â’r adeilad a rhannu syniadau am ffyrdd newydd o’i ddefnyddio.
Cysylltwch â Meirion am fwy o wybodaeth neu ffoniwch 07824 808238.
