Academi Berfformio Glannau Conwy

Newyddion cyffrous!

Rydym yn ddiolchgar iawn i dderbyn grant gan The National Lottery Community Fund/ Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol sydd yn ein galluogi i ddatblygu ein Ysgol Berfformio gynt – sydd nawr wedi ei ail-frandio fel Academi Berfformio Glannau Conwy.

  • Enw newydd
  • Logo newydd
  • Tudalen Facebook newydd
  • Lleoliad newydd

… a, gobeithio, wynebau newydd!

Lledaenwch y gair ymysg unrhyw blant a phobl ifanc sydd â diddordeb mewn unrhyw elfen o berfformio trwy gyfrwng y Gymraeg!

Tymor Gwanwyn – Haf 2025

Yn ystod y tymor ‘gwanwyn-haf’ byr yma, byddwn yn gweithio ar greu Ffilm fer (Fideo Cerddoriaeth) yn bennaf efo arbenigwyr ffilmio/golygu, yn ogystal â cherddorion ac action! Chydig yn wahanol, a chyffrous iawn!

Lleoliad: Yr Hen Ysgol, Abergele LL22 7BP (Yr Hen Ganolfan Ieuenctid gynt)

Dyddiadau: Byddwn yn cyfarfod ar y nosweithiau Mawrth canlynol

  • 10.06.25
  • 17.06.25
  • 24.06.25
  • 01.06.25
  • 08.06.25
  • 15.06.25

Amser:

Oedran Cynradd: 4:30pm – 6:15pm

Oedran Uwchradd: 6:30pm – 7:45pm

Cost: £5 y sesiwn a chynnig o £20 ar gyfer cyfres o chwech.

Archebu lle: eryl@miconwy.cymru

Gwyliau Haf

Byddwn yn cynnal cwpl o ddyddiau o’r Academi Berfformio yn ystod gwyliau’r haf, a bydd rhain ychydig yn wahanol i’r nosweithiau clwb arferol.

Dyddiadau i’w cadarnhau.

Tymor yr Hydref

Byddwn yn cychwyn tymor yr hydref ar ôl y gwyliau, gan anelu at berfformiadau cyhoeddus.

Ein Tiwtoriaid

Rydym yn ffodus iawn o’n tiwtoriaid profiadol yn y maes perfformio.

Maent wrth eu boddau’n gweld y cynnydd mawr yn hyder a sgiliau’r holl blant a phobl ifanc – ond, er mwyn sicrhau ffyniant tymor-hir yr Academi Berfformio, rydym angen mwy o blant a phobl ifanc i gymryd rhan.

Skills

Posted on

Mehefin 12, 2025

Submit a Comment

Your email address will not be published.