Beth ydi Bocswn?
Cynllun a sefydlwyd yn wreiddiol draw yn Ynys Môn yw Bocswn, sydd yn darparu sesiynau a chyfleoedd i blant a phobl ifanc ddysgu chwarae offerynnau band, cyfansoddi caneuon newydd, recordio a chael hwyl! Ers sawl blwyddyn bellach rydym ni yma yng Nghonwy wedi mabwysiadu’r cynllun, ac nid yn unig yn cynnig sesiynau cymunedol, ond gallwn hefyd gynnig sesiynau mewn ysgolion cynradd ac uwchradd hefyd.
Ariennir y prosiect gan y Cyngor Celfyddydau.
Prif bwrpas Bocswn yw annog ac ennyn diddordeb mewn cerddoriaeth Gymraeg, a rhoi cyfle i’r plant greu a chyfansoddi cerddoriaeth Cymraeg eu hunain yn ogystal ag arbrofi gydag offerynnau newydd a thechnoleg wahanol.
Mae buddiannau ar lefel bersonol a chymdeithasol i Bocswn hefyd – mae nhw’n cael modd o fynegi eu hunain, annog creadigrwydd, a gwella eu hunan hyder a hunan barch.
Eisiau dechrau band?
Os oes gennyt ti ddiddordeb bod yn rhan o fand, beth am gysylltu gyda’n Swyddog Bocswn, George Amore i gael mwy o wybodaeth ac i gael sgwrs pellach!
