Prosiect Dathlu Treftadaeth Llanrwst

Gorff 4, 2019 | Newyddion | 0 comments

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn gweithio ar brosiect cyffrous iawn, sef Prosiect Dathlu Treftadaeth Llanrwst, yn dilyn Blwyddyn y Chwedlau ac i baratoi i groesawu’r Eisteddfod i Lanrwst ym mis Awst.

Bellach, mae’r prosiect bron a dirwyn i ben – dyma i chi flas o uchafbwyntiau’r prosiect, sy’n cynnwys Diwrnod Dathlu’r Delyn, a Diwrnod Dathlu Treftadaeth Llanrwst.

Cadwch lygad allan am fwy o ganlyniadau’r prosiect maes o law, gan gynnwys llinell amser ddigidol o hanes tref Llanrwst, a ffilm animeiddio ‘Llanrwst yn Llosgi’.

 Cyfle gwych i gwpwl neu deulu rentu tŷ ym Mhenmachno am bris rhesymol. Manylion cyswllt ar yr hysbyseb.