Fel rhan o brosiect EgNi mae Menter Iaith Conwy yn y broses o gael system Hydro wedi’w gyfuno a system Solar i ysgol gynradd Ysbyty Ifan. Y gobaith yw bydd system 4Kw solar a 0.5kw Hydro yn cael ei sefydlu er mwyn lleihau costau trydanol yr ysgol a gwella cynaliadwyedd trwy lleihau ôl troed Carbon y gymuned.
Cynhelir gweithdai gan y fenter efo disgyblion yr ysgol er mwyn eu haddysgu am Newid Hinsawdd ac y pwysigrwydd o ddefnyddio egni adnewyddadwy megis Hydro a Solar.