Mae cyfle unigryw i drigolion a busnesau Hiraethog chwarae rhan allweddol yn natblygiad ac adfywiad eu hardal drwy gydweithio i wireddu nod strategaeth a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer eu bro.
Nod Strategaeth Datblygu ar gyfer Hiraethog yw:
“Cynnal a datblygu Hiraethog fel lleoliad y mae pobl eisiau ac yn gallu byw, gweithio a chwarae yno, gan ddefnyddio a chefnogi amgylchedd, tirwedd, treftadaeth a diwylliant unigryw’r ardal”.
Fe gomisiynwyd Strategaeth Hiraethog fel prosiect cydweithredol gan y Grwpiau Gweithredu Lleol yn Sir Conwy a Sir Ddinbych sef Conwy Cynhaliol a Cadwyn Clwyd. Fe’i gyllidwyd drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Daeth cefnogaeth a chyllid ychwanegol gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) a Chyngor Sir Ddinbych (CSDd).
Rhan allweddol o’r Strategaeth yw’r Cynllun Gweithredu sy’n gosod camau clir ac ymarferol er cyrraedd y nod dros y blynyddoedd nesaf. Ar ôl llwyddo yn eu cais drwy broses tendr agored i CBSC, Menter Iaith Conwy fydd yn gyfrifol am y gwaith o gyflwyno a rheoli’r Cynllun Gweithredu yma. Penodwyd Eirian Pierce Jones o Fenter Iaith Conwy fel Cydlynydd Hiraethog ac mae hi eisoes wedi dechrau yn y swydd. Mae hi’n edrych ymlaen at gydweithio â holl drigolion, cymdeithasau a busnesau Hiraethog er sicrhau y budd a’r cyfleoedd gorau posib drwy weithredu’r Strategaeth ar lawr gwlad. Bydd ei gwaith beunyddiol yn amrywiol iawn ac yn canolbwyntio ar gynorthwyo cymunedau i wireddu cynlluniau a ddaw a budd i’r bobl a’r fro. Gall hyn gynnwys, ymysg eraill, prosiectau bwydamaeth, amgylcheddol, diwylliannol a threftadaeth, twristiaeth yn ogystal â gweithgaredd sy’n gwella mynediad i wasanaethau megis band eang a thrafnidiaeth yn yr ardal wledig. Mi fydd Eirian hefyd ar gael i gynorthwyo cymunedau i ddarganfod ffynonellau arian i wireddu eu prosiectau.
Dywedodd Eirian: “Mae Strategaeth Hiraethog yn cynnig cyfleodd adfywio gwych i drigolion, busnesau ac ymwelwyr i’r ardal o ran yr economi, eu cymunedau a’u hamgylchedd. Rwy’n edrych ymlaen yn arw i ddod â chynnwys y strategaeth, ac yn benodol y cynllun gweithredu, i gymunedau’r fro dros y misoedd nesaf. Cawn drafod sut y gallem oll gydweithio i sicrhau llwyddiant y strategaeth yn yr ardal.”
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf o Grŵp Llywio Hiraethog fis Medi ac mae rôl ganolog ganddynt yn y gwaith yma. Mae naw aelod i gyd yn cynnwys Cynghorwyr Sir o Gonwy a Dinbych yn ogystal â dau aelod o’r naill sir yn cynrychioli sectorau amrywiol. Yn ystod eu cyfarfod cyntaf fe gytunwyd yn unfrydol mai gwella ansawdd band eang yn ardal Hiraethog oedd cael y brif flaenoriaeth ac felly dyma fydd cael sylw pennaf Eirian yn ei gwaith.
Yng nghyd-destun y gwaith yma, mae ardal Hiraethog yn cynnwys y wardiau canlynol: yng Nghonwy wardiau etholiadol Llansannan, Uwchaled, Llangernyw, Uwch Conwy a phlwyf Llanfair Talhaiarn a Sir Ddinbych yn cynnwys y wardiau etholiadol Efenechtyd, Llanrhaeadr yng Nghinmeirch, Dinbych Uchaf, Corwen a Llanfair Dyffryn Clwyd / Gwyddelwern a phlwyf Cefn Meiriadog. Cytunwyd y byddai sylw arbennig yn cael ei roi i’r ardal sy’n ganolog i Hiraethog a fe’i diffinnir fel radiws o 6 milltir o ganol Mynydd Hiraethog. Er hynny, mae Eirian yn awyddus iawn i glywed gan unrhyw un o’r ardal yn ei gyfanrwydd wrth gwrs.
Bydd Eirian yn trefnu cyfarfodydd gyda chynghorau cymuned yr ardal fis Chwefror ac yn awyddus iawn i gydweithio ag unrhyw fusnes, cymdeithas a chymuned er gwireddu nod y strategaeth.
Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn y gwaith, neu gydag unrhyw ymholiad, i gysylltu â hi yn swyddfa Menter Iaith Conwy yn Llanrwst ar 01492 642357 neu drwy e-bost ar eirian@miconwy.org
Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.