
“Nes i ganfod cariad dros wbath o’dd ddim yn person.”
Yn wreiddiol o dalaith Wyoming yn yr Unol Daleithiau, mae Parker, 32 oed, wedi llwyddo i ddysgu Cymraeg mewn cwta flwyddyn.
Fe ddechreuodd yr Americanwr ar ei daith dysgu Cymraeg ym mis Tachwedd 2023 ar ôl iddo symud i Drefriw yng Nghonwy gyda’i gyn-gariad.
Gyda chefnogaeth Menter Iaith Conwy, mae Parker bellach yn gallu siarad yr iaith yn hyderus ac yn gobeithio hyfforddi fel cwnselydd Cymraeg.
“Ma’ dysgu Cymraeg ‘di newid fy mywyd yn hollol,” meddai wrth siarad â Newyddion S4C.
“Nath ffrind fi Meirion, bos fi wan, nath o ddysgu fi’r dywediad cwpan mewn dŵr – o’n i’n union fel ‘na, jyst mewn perthynas ar ôl perthynas oedd jyst di-ben.
“Doedd gen i ddim cyfeiriad fy hun… Efo’r Cymraeg, gesh i hwnna.”
Cysylltiad gyda’i deulu
Mae Parker, sydd bellach yn byw ym Methesda yng Ngwynedd, wedi rhoi cynnig ar ddysgu sawl iaith, gan gynnwys Eidaleg.
Ond dywedodd ei fod yn angerddol dros y Gymraeg oherwydd ei bod yn ei gysylltu gyda theulu ei dad a oedd yn wreiddiol o Gymru.
“Dw i’n teimlo’n angerddol dros y Gymraeg achos ma’ hi’n iaith brodorol,” meddai.
“Ac efo ieithoedd brodorol, dw i’n meddwl ma’ nhw’n cysylltu ni efo’r tirwedd a’n hanes ni – jyst bod yn rhan o wbath sy’n fwy na ni.”
Cliciwch y ddolen i ddarllen y stori yn ei chyfanrwydd: https://newyddion.s4c.cymru/article/26271