Croeso mawr i staff newydd y Fenter!

Medi 23, 2024 | Uncategorized @cy | 0 comments

Swyddog Cronfeydd Gwynt Clocaenog a Brenig (Sefydlu Pwyllgorau Ardal yn Ardal Hiraethog Sir Conwy a Dinbych)

Fy enw yw Nia Evans. Yn wreiddiol o ardal Penllyn ond bellach yn byw yn Nyffryn Conwy gyda fy nheulu. Cefais fy magu ar aelwyd Gymraeg ac wedi defnyddio’r iaith yn fy mywyd bob dydd erioed. Rydw i’n credu ei bod yn bwysig rhoi cyfleodd i bawb gael defnyddio’r Gymraeg ymhob agwedd o fywyd boed yn weithio neu gymdeithasu. Felly, fy ngobaith yw cynyddu’r cyfleodd sydd yn ei ardaloedd gwledig i blant, pobl ifanc ac oedolion lleol gael byw eu bywydau yn Gymraeg ac yn yr un modd cynnig cyfleoedd i drigolion di – Gymraeg yr ardal ddysgu a magu hyder gan ei gwneud yn iaith i bawb waeth beth yw ei gallu.Byddaf yn dechrau ar y gwaith o sefydlu cyfarfodydd yn ardaloedd Uwchaled a Bro Aled yn Sir Conwy, ac ardaloedd Llanrhaeadr yng Nghinmeirch a Prion, Saron, Nantglyn a’r cylch yn Sir Ddinbych yn fuan. Felly cysylltwch hefo fi nia.evans@miconwy.org os oes gennych syniadau, neu yr hoffech ymuno yn y gweithgareddau.

Swyddog Tai Cymunedol Penmachno (Cyllid gan y Parc)

Mae Arfon Hughes o Ddinas Mawddwy wedi cychwyn gweithio yn ardal Penmachno i ganfod ffyrdd o gynorthwyo pobl i fedru aros yn eu hardal neu ddychwelyd trwy adnabod a gweithredu cynllun tai fydd yn addas yn fforddiadwy ac angen gan sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg yr un pryd.Mae Arfon wedi gweithio yn y sector tai gwledig, datblygu cymunedol, menter iaith ac fel athro cynradd Cymraeg ac yn gyfarwydd a’r heriau sydd yn wynebu ardaloedd gwledig. Mae ganddo flynyddoedd o brofiad o ddatblygu cynlluniau cymunedol yn Ninas Mawddwy ac mae’n edrych ymlaen i’r her o weithio gyda chymuned Penmachno i fynd i’r afael a thai i gynnal y gymuned i’r dyfodol.Yn fab fferm o Ddyffryn Ceiriog gyda chysylltiadau trwy ei fam yn No’ddelan a Dyffryn Conwy, mae gan Arfon ddiddordeb yn niwylliant Cymru ac wedi bod yn gyfrifol gydag eraill am ddatblygu noson y Fari Lwyd, y plygain, a chymdeithas hanes ac mae wedi bod yn gynghorydd cymuned ers nifer o flynyddoedd ac yn cynnig teithiau tywys hefyd.“Dwi’n gobeithio y byddaf yn gallu cynorthwyo’r ardal i wireddu ei gweledigaeth a drwy hynny ddiogelu’r iaith a’r diwylliant a hynny mewn modd fydd yn gwneud y gymuned yn un economaidd gynaliadwy .” arfon@miconwy.cymru

 Cyfle gwych i gwpwl neu deulu rentu tŷ ym Mhenmachno am bris rhesymol. Manylion cyswllt ar yr hysbyseb.