Busnesau Llanrwst yn arwain y ffordd…
A hithau’n #DyddMiwsigCymru, hoffwn ni ganmol rhai o fusnesau Llanrwst sy’n mwynhau chwarae cerddoriaeth Gymraeg trwy gydol y flwyddyn. Mae rhai ohonynt yn cynnwys Tir a Môr, Amser Da, Ffika a Caffi Contessa.
Dywedodd Anna o Gaffi Contessa ei bod hi’n “mwynhau gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg ers blynyddoedd, ond ers i’r Eisteddfod Genedlaethol ddod i sir Conwy, rydym wedi cyflwyno mwy o amrywiaeth o gerddoriaeth Gymraeg yn y caffi.”