Mae Cymdeithas Gymraeg Glan Conwy, Llais Llan, yn falch o gyhoeddi y bydd gŵyl Gymraeg newydd sbon yn cael ei chynnal eleni, ar ddydd Sadwrn y 6ed o Fehefin.
O 12pm ymlaen yn Cae Ffwt bydd adloniant i’r teulu cyfan ei fwynhau, yn cynnwys gemau amrywiol a hwyliog, castell neidio, bwyd a chwrw Cymreig. Mynediad am ddim!
I ddilyn, bydd noson o gerddoriaeth Gymraeg, hefyd am ddim. Bydd yn cychwyn am 7:30pm – ac mae’r artistiaid yn cynnwys Alistair James, y Moniars a mwy.
Da chi, peidiwch â cholli’r noson hon – cyfle gwych i gychwyn yr haf mewn steil!